JOHN EVANS, EGLWYSBACH (1840-97) gan y Parch. J. Alun Roberts Yn sicr, y seren fwyaf disglair a'r pregethwr mwyaf poblogaidd fu erioed yn hanes Wesleaeth Gymraeg. Pe wedi ei eni ddeugain mlynedd ynghynt, byddai yn un o bedwar cedyrn pwlpud Cymru. Bu farw Christmas Evans, Williams o'r Wern a John Elias o fewn tair blynedd ond y flwyddyn y bu farw Williams o'r Wern, ganed John Evans y Ty Du, Eglwysbach, Medi 28, 1840. Gallwn feddwl am alar cenedl o golli y Tir Chedyrn, ond cyn bod yn ugain oed, yr oedd y tyrfaoedd yn dod i wrando y "bachgen o Eglwysbach", ac o'r cychwyn, gwelwyd dychweledigion yn yr oedfaeon. Hynny cyn i Ddiwygiad 1859 a'i rymuster gerdded Cymru. Cafwyd cofiant i Christmas Evans ymhen blwyddyn wedi ei farw, bu raid aros yn hir am gofiant i Williams o'r Wern a John Elias, ond cafwyd cofiant ardderchog i John Evans ymhen chwe blynedd wedi ei farw. Dau lenor medrus, a oedd yn ei adnabod yn dda, John Price Roberts a Thomas Hughes yn olygyddion, cofiant o 672 tudalen,a bron un rhan o dair ohono yn cynnwys "Atgofion fy mywyd", gan John Evans. Dafydd Evans, Ty Du, Eglwysbach oedd ei dad, rhyw awgrym fod peth gwaed uchelwyr yn y teulu, Bod Silyn a Gorddinog, Abergwyngregyn; o'r teulu hwn hefyd y daeth William Evans, (Monwyson). Jane merch Robert a Margaret Davies, Dyffryn, Eglwysbach oedd ei fam. Credai ar hyd ei oes, yn ei eiriau ef ei hun, ei fod yn "blentyn rhagluniaeth", fod yr Arglwydd wedi ei warchod i gyflawni gwaith arbennig ynglŷn â'r Efengyl yn y byd, gan iddo gael tair gwaredigaeth yn blentyn: (i) Blacan y fuwch, yn ei gornio yn anymwybodol yn blentyn bach, a'r forwyn yn ei waredu. (ii) Peiriant dyrnu, a cheffylau mewn cylch yn ei weithio, ac aeth yn rhy agos i'r peiriant, cydiodd hugan a wisgai yn y werthyd, a bu bron iddo gael ei wasgu i farwolaeth, ond gwrthododd y gaseg ddu symud, fel pe byddai yn gwybod fod rhywbeth o'i Ie. (iii) Yn blentyn, cafodd y dwymyn goch yn ddrwg iawn, yntau yn gaeth yn ei wely, a Thestament Newydd o fewn ei gyrraedd, a dechreuodd ddysgu darllen. Ni pheidiodd â sôn am y gwaredigaethau hyn ar hyd ei oes. Ym 1846, symudodd y teulu o Ty Du i Goleugell, Eglwysbach, ac fel John y Gly'gell yr adwaenid ef bellach gan bobl y cylchoedd. Ysgol Eglwys oedd yn y pentref, Richard Beverley yn athro rhagorol, ond yn ddisgyblwr lIym nid rhyfedd ac yntau wedi bod yn gapten llong am gyfnod. David Owen yn offeiriad y plwyf, ac yn ôl tystiolaeth John Evans, gwr caredig, parod ei gymwynas, a chanddo awydd mawr i'r bachgen disglair gymryd swydd disgybl athro; golygai hynny ymaelodi yn yr Eglwys, ond yr oedd wedi ei dderbyn gan y Wesleaid, ac er iddo dderbyn bedydd esgob, ni fu iddo ymadael â'r Wesleaid hwy oedd yr unig enwad Ymneilltiol yn yr ardal yn y cyfnod hwn. Mae'n amlwg ei fod yn blentyn byw ac effro iawn i ddylanwadau, ac aros yn amlwg arno wnaeth amryw o'r rhai hyn ar hyd ei oes. Yn enwedig marwolaeth ei fam, ac yntau yn fachgen pedair ar ddeg oed. Ymhen llai na blwyddyn, cymerodd ran am y tro cyntaf mewn cyfarfod gweddi yn Nant y Cerrig-mân. Yn un ar bymtheg oed, pregethodd am y tro cyntaf i gynulleidfa o wyth yng Nghapel Garmon, ar y testun "O frodyr, gweddïwch drosom". Pregeth bedwar munud ar ddeg, a cheiliog dandi yn clochdar wrth y drws ar ddiwedd yr oedfa. "Byth eto", oedd dedfryd y pregethwr ifanc, ar ddiwedd yr oedfa, ond yr oedd gan Robert Davies (Rhysawr Hedd) syniadau gwahanol ar ei gyfer. "Achubiaeth