Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EGLWYS GYMRAEG CAPE TOWN* Gan Mr. TUDOR PROFFIT, B.A., Queensferry, Sir y Ffiint Yn fy meddiant y mae copi o lyfr emynau yn dwyn y teitl Odlau Moliant Casgliad o Donau ac Emynau at wasanaeth Eglwys Gymreig Cape Town ac Eglwysi Eraill yn Neheudir Affrica Treffynnon 1905 Prif olygydd yr emynau yn y llyfr hwn oedd gweinidog Wesleaidd, y Parchedig D. Gwynfryn Jones, ac ef, hefyd, oedd gweinidog cyntaf yr Eglwys Gymreig yn Cape Town. Gan hynny, dyma gyfìawnhad i mi am geisio rhoddi peth o hanes yr Eglwys hon. O'r dechrau, y mae ein Cymdeithas Hanes wedi edrych y tu hwnt i ffiniau Cymru, oblegid yn rhifyn cyntaf Bathafarn ym 1946, bu ysgrif gan Bob Owen, Croesor, ar "Genadaethau Cymreig yr Eglwys Esgobol Drefhyddol yn Unol Daleithiau yr America 1822 — 1871".1 Trwy garedigrwydd Mrs. D. Gwynfryn Jones, cefais ohebu ag Ysgrifen- nydd Eglwys Gymreig Cape Town, y diweddar Mr. G. Cleaton Jones. Ei deipysgrif ef ar hanes yr Eglwys, ynghyda llythyrau eraill ganddo2 yw sylfaen yr hyn sydd gennyfi'w ddweud ar y pwnc. Gwell imi ar y dechrau nodi'n fras y ddau brif lwybr y cerddwn ar hyd-ddynt, sef (1) Cyfodiadyr Eglwys, ei gweinidogion a'i phobl, ei dyddiau trai, a rhai rhesymau dros hynny. (2) Llyfr emynaú'r Eglwys-sef cyfrwng ei chredo a'i mawl. I Y DECHREUAD Gellir dweud mai ar fwrdd Hong ar ei thaith o'r wlad hon i Dde Affrig y dechreuodd Eglwys Gymreig Cape Town. Dechreuodd yr Achos pan gyfarfyddodd nifer o Gymry a'i gilydd ar fwrdd Hong ar ei thaith i Ddeheudir Affrica ym 1896. Awgrymodd un ohonynt, Mr. Griffith Morris o Glyn Arthen, Sir Aberteifi, iddynt ffurfio dosbarth Beiblaidd, *Traddodwyd y Ddarlith Hanes hon yn ystod y Gymanfa Gymreig, yng Nghapel Bethel, Prestatyn, brynhawn Mawrth, Mai 25, 1965, o dan lywyddiaeth Mr. Elwyn Morris, Gronant. 1Bathafarn, cyf. i, 1946, tud. 57-69. 2Ysgrifennwyd y rhain ym 1960. Dynodir dyfyniadau o'r teipysgrif (9.1.60), gan G.C.J.'