fewn pum milltir i unrhyw dref y bu'n gweinidogaethu ynddi. Oherwydd y deddfau hyn-Côd Clarendon-fe ddaliwyd y lleyg- wyr Anghydffurfiol yn ogystal â'r gweinidogion yn y rhwyd. A'r canlyniad trist oedd hyn: ni allai'r Piwritan ddal bywoliaeth yn Eglwys Loegr; ni allai bregethu i fwy na phump o gynulleidfa yn unman; ni allai ef na'r un lleygwr o Biwritan fod yn aelod o gorff- oraeth unrhyw dref na hyd yn oed fyw mewn tref o'r fath; ni allai fynychu Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt-yr unig Brif- ysgolion a oedd yn bod y pryd hynny; ac ni allai gadw ysgol hyd yn oed heb drwydded esgob. Eìthr er gwaethaf y rhwystrau hyn- er gwaethaf yr ofn a'r bygwth a fu arnynt am dros chwarter can- rif-glynodd y mwyafrif mawr at eu hegwyddorion crefyddol fel dur, a'u dioddef hwy sy'n gwneud y bennod hon y fwyaf ogoneddus yn hanes Ymneilltuaeth Cymru. Yn drydydd, cofiwn yr un pryd mai adwaith-dialedd os myn- nwch-Anglicaniaeth i ymddygiad Piwritaniaeth yn nydd ei goruch- afiaeth oedd y Troi Allan a'r holl erlid a ddigwyddodd ar ôl hynny. Oblegid yn ystod y Werinlywodraeth (1649-60), collasai cannoedd o offeiriaid eu bywoliaeth yng Nghymru a Lloegr; yn wir, amcan- gyfrifodd y diweddar Ddr. Thomas Richards (a thrist yw gorfod chwanegu'r gair 'diweddar' o flaen enw'r hanesydd gwych hwnnw) fod dim llai na 278 0 offeiriaid wedi dioddef felly yng Nghymru yn unig, a hynny am bob math o resymau a ystyrid yn wrth-Biwrit- anaidd. Bu'n galed ar y rhan fwyaf o'r gwrthodedigion hyn, a da fyddai i ni eu cofio hwythau hefyd, oblegid ar wahân i unrhyw ystyriaeth arall ac uwch, eu dioddef hwy, a rhai tebyg iddynt ar eu hôl, sy'n esbonio 1662. Bu troi allan cyn y Troi Allan, a'r Piwritaniaid a oedd yn gyfrifol am hwnnw. Ac yn olaf, ar bob cyfrif cofiwn wrhydri doe, eithr nac anghofiwn anghenion heddiw ac yfory. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, ar adeg o drai ar grefydd a phan geir cymaint e ddifaterwch yn ei chylch, closiodd y gwahanol lwythau'n nes at ei gilydd-yn nes nag y buont erioed, a hynny nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd. Y mae'r Mudiad Eciwmenaidd yn un o fudiadau pwysicaf a mwyaf calonogol y ganrif hon, a thrueni yn wir fyddai i neb ohonom ei wanychu wrth gofio'r rhaniadau gynt. Eithr y mae'n dda meddwl nad yw hynny'n debyg o ddigwydd. Amlygodd mwyafrif mawr y siaradwyr a'r sgrifenwyr hyd yn hyn, ar y naill ochr a'r lall­yn Anghydffurfwyr ac Eglwyswyr-ysbryd gwir Gristionogol a mawr- frydig. Mae'n wir y gellir anghytuno â rhai o'r datganiadau a wnaed ar lafar ac ar bapur gan hwn a'r llall-unwaith eto o'r ddwy ochr; mater o farn bersonol ar nifer o ffeithiau yw Hanes wedi'r cwbl, a rhydd i bawb ei farn. Ond go brin y gall neb gwyno oherwydd yr ysbryd a oedd y tu ôl i'r datganiadau hynny. Mewn gair, gallwn ymlawenhau am i'r dathlu eleni nid yn unig roi cyfle i ni gofio