1662 1962 ERBYN cyhoeddi'r rhifyn hwn, bydd y pedwar enwad Ymneill- tuol yng Nghymru wedi dathlu tri-chanmlwyddiant y diarddel (neu'r Troi Allan) a fu yn 1662. Eisoes cynhaliwyd nifer o gyfar- fodydd arbennig-buom ni'r Methodistiaid yn hynod o ffodus i sicrhau gwasanaeth y Parch. Ddr. Tudur Jones yn ein Cymanfa- a chyhoeddwyd nifer o lyfrau ac erthyglau. A'r cyfan gyda'r un amcan syml: ein hatgoffa o arwyddocâd y flwyddyn dyngedfennol honno, oblegid dyna'r pryd y ganed Anghydffurfiaeth yng Nghymru a Lloegr fel ei gilydd. Afraid felly, a braidd yn hwyr ar y dydd, yw i ni chwanegu at y toreth geiriau a lefarwyd ac a sgrifennwyd yn barod. Ond ni allwn lai na sylwi'n fyr mewn Cylchgrawn Hanes fel hwn ar y digwyddiad pwysig hwn-digwyddiad o bwys eithriadol yn hanes crefydd yng Nghymru, ac o gryn bwysigrwydd i ninnau hefyd fel Anghydffurfwyr Methodistaidd, er nad oeddym yn bod dair canrif yn ôl. Bodionwn felly ar ychydig sylwadau cyffredinol wrth dalu teyrnged fechan fel hon i'r Piwritaniaid dewr a arloesodd ffordd rhyddid crefyddol i ni a phawb arall a ddaeth ar eu hôl. Yn gyntaf, y mae'n hen bryd i ni fel Anghydffurfwyr sylweddoli nad dygwyl Sant Bartolomeus, Awst 24, 1662-dydd y dathlu mawr-oedd dydd ein geni; ein camarwain i gredu hynny a gawsom ar hyd y blynyddoedd gan yr hanesydd Ymneilltuol Calamy. Dych- welodd y brenin Siarl II i Lundain o'i alltudiaeth ar Fai 29, 1660; pasiwyd Deddf Unffurfiaeth ar Fai 19, 1662; daeth i rym ar Awst 24 yr un flwyddyn, dygŵyl Sant Bartolomeus; a dyna ddechrau Anghydffurfiaeth. Dyna'r ymresymiad-a dyna'n anffodus y gred boblogaidd o hyd. Ond mewn gwirionedd, dechreuodd gofidiau'r Piwritaniaid yn hir cyn y diwrnod hwnnw. Ar "Bartolomeus Ddu" collodd tua 31 o Biwritaniaid Cymru eu bywoliaeth oherwydd Deddf Unffurfiaeth, eithr rhwng Mai 29, 1660, a'r dyddiad hwnnw aethai 93 eraill i'r anialwch o'u blaen. Climax-uchafbwynt-y Troi Allan, felly, yn hytrach na'i ddechrau oedd dygwyl Sant Bartolo- meus. Yn ail, yn union fel y mae'n hanesyddol anghywir i ni briodoli'r holl ddiarddel i Ddeddf Unffurfiaeth, felly hefyd y mae'r un mor anghywir i ni olrhain holl ddioddefiadau'r Piwritaniaid iddi; rhaid cofio Côd Clarendon yn ei gyfanrwydd i ddeall helbulon Anghyd- ffurfwyr Cymru rhwng 1662 a 1689, pan basiwyd Deddf Goddefiad. Dyna Ddeddf y Corfforaethau (1661), er enghraifft, a gyfyngodd aelodau o gorfforaeth tref i'r rheini a gymunai yn Eglwys Loegr. Dyna Ddeddf y Cyrddau (1664), a wnaeth bob cyfarfod crefyddol o fwy na phump o aelodau (ar wahân i aelodau'r teulu) yn anghyf- reithiol. A dyna Ddeddf y Pum Milltir (1665) drachefn, a wahardd- odd bob Anghydffurfiwr rhag byw mewn tref gorfforedig nac o