Drych o Ddechrau'r Ganrif (Parhad) Gan y Parch. D. LLEWELYN JONES, B.A., Llanidloes V Ceisiwn sôn yn awr am y gweithgarwch meddyliol a welir o ddarllen yr erthyglau sy'n trafod rhai o bynciau pwysig y cyfnod. Nid wyf am ymdrin â Diwinyddiaeth yn ei maes arbennig ei hun, nac ag Athroniaeth a Moeseg a Seicoleg yn eu meysydd hwythau chwaith, er bod peth deunydd yn y cyfnod, a chryn dipyn ohono yn enwedig ar y pwnc cyntaf a nodais. Ceir diwinyddiaeth mewn traethodau preiffion ac mewn pregeth aml. Er imi gael siom gan ei brinned, hwyrach mai purion fydd rhoi yma yr ychydig sydd gennyf i'w draethu am Feimiadaeth Feiblaidd, gan fod honno'n eglur yng nghefndir y cyfnod. Ychydig a geir ar y pwnc yn bendant uniongyrchol. Fel math o isfeirniadaeth hwyrach y dylid nodi'r ymdriniaeth (sydd yn rhestr o gywiriadau, yn bennaf) gan y Parch. Owen Williams, sef 'Cyfieithiad yr Ysgrythyrau a "Thestament yr Efrydydd' a gyhoeddwyd yn araf o achlysurol a thameidiol rhwng Chwefror 1902 a Rhagfyr 1904.71 Da fyddai cael gwybod ai arafwch yr awdur ynteu barn y Golygyddion am fesur diddordeb y gwaith a barodd oriogrwydd y cyhoeddi. A oedd y darllenwyr yn ddifater am gyfieithiad cywirach? Canmolwn sêl Owen Williams am geisio cael y Gair mor gywir ag a allai ef yn ein hiaith. Ynglyn ag uwchfeirniadaeth, traethodd Hugh Evans ar y testun 'Beirniadaeth Ddiweddar a Llyfr y Proffwyd Esaiah',72 gan sôn am y profion mewnol ac ieithyddol etc., nad Eseia oedd awdur penodau XL-LXVI. Fe'i hatebwyd yn gyflym a braidd yn chwyrn gan W. R. Roberts,73 a bleidiai'r farn draddodiadol mai un awdur a oedd i'r llyfr cyfan. Ond dychwelodd Evans i'r frwydr74 gan chwanegu dadleuon newydd wrth feirniadu llith Roberts. Cafodd Roberts yntau roi'r ateb olaf75 — ond nid yr un terfynol wrth reswm. nib., 1902, 75-7; 351-3; 1903, 64-5; 114-15; 144-5 434-7; 1904,. 115-17; dan y pennawd "Testament yr Efrydydd", 200; 400; 437-8; 472-3. r*ib., 1899, 96-9. riib., 1899, 153-7. \Hb., 1899, 231-6. "ib., 1899, 300-4.