Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Braslun o Hanes Wesleaeth yn Nhre'rddôl Gan y Parchedig J. HENRY GRIFFITHS, B.A., Tre'rddôl BWRIODD Wesleaeth ei gwreiddiau yn ardal Cors Fochno yn niwedd 1804. Adroddir am Hugh Rowlands, Half Way House, Tre'rddol (tadcu Humphrey Jones y Diwygiwr yn ddiweddarach 0 ochr ei fam) yn digwydd bod ym Machynlleth ym mis Hydref y flwyddyn honno pan oedd Edward Jones, Bathafarn, a William Parry, Llandygái, yn pregethu yn y dref ar eu taith o Feddgelert i Aberystwyth. Cymhellodd Hugh Rowlands y cenhadon i bregethu yn Nhre'rddôl wrth fynd heibio drannoeth, ac yn ôl tystiolaeth Lot Hughes1 cawsant dyrfa i'w gwrando "wrth ysgubor a oedd gerllaw y bont." Yn fuan ar ôl hyn teithiai John Morris, y pregethwr taranllyd, drwy'r ardal a phregethodd yntau i gynull- eidfa fawr â dylanwad rhyfeddol2. Pregethodd hefyd yn Nhal-y- bont "oddiar y garreg farch o dan y dderwen fawr yng nghanol y pentref," lle'r oedd cenhadon yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr eisoes wedi cyhoeddi'u neges. Diau bod y dystiolaeth draddodiadol hon am y dechreuadau cynnar yn weddol gywir. Ni ddylesid, fodd bynnag, roddi gormod pwys ar y sôn am dyrfaoedd o wrandawyr parod, canys y mae nychdod yr achos am flynyddoedd ar y cychwyn ynghyda'r hyn a wyddys am fywyd plwyf Llangynfelyn yn nechrau'r ganrif ddi- wethaf yn awgrymu'n wahanol. Y mae'r Dr. Thomas Richards5 wedi pwysleisio mai ychydig a fennodd diwygiad mawr Piwritan- aidd yr ail ganrif ar bymtheg ar ogledd Ceredigion, a dywaid mai yn ardal Cors Fochno (ardal ei febyd, cofier) y ceid yn y ddeu- nawfed ganrif rai o'r bobl fwyaf barus a didonad yng Nghymru i gyd. Yr oedd y mwynwyr estron yn gyfrifol am hyn i raddau, ac ym mhentref Tre'rddôl beïid y gwneuthurwyr hetiau am lawer 0 afradlonedd y cylch. Temtiwyd Daniel Rowland i gyhoeddi mell- tith ar y lle oherwydd iddo gael ei gam-drin ar y bont, a derbyniad siomedig a gafodd John Elias yn yr ardal yn 1801. Tystia offeiriad y plwyf yn 1803, mewn ateb i gwestiwn mewn holiadur esgob, fod y mwyafrif o'r plwyfolion heb dderbyn bedydd esgob, ac ychwan- egu bron ar ôl pob atebiad o'r eiddo yr atodiad awgrymog "I think." Ceir tystiolaeth4 hefyd fod ym mhlwyf Llangynfelyn hyd at ganol y ganrif ddiwethaf fwy o fyw ysgafala nag yn y plwyfi cylchynol. Eithr nid cefndir du mohono chwaith ond brith. Caed tair o ysgolion Griffith Jones yn y gymdogaeth yn 1765-66,5 a chefnogid hwy yn eiddgar gan John Jones, ciwrad y plwyf- Ychydig ar ôl hynny daeth Thomas Jones (Creaton yn ddiwedd- 1 Yr Eurgrawn, 1871, t. 416. 2 ib, 1871, t. 416. 3 Hanes Rehoboth, Taliesin. 4 Aberystwytb Obseroer, 1874. Hanes Rehoboth, Taliesin.