Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN HUGHES O ABERHONDDU (1776-1843) Gan yr Athro R. T. JENEINS, M.A., D.Litt., Bangor YMAE'N sicr gennyf na wêl neb ohonoch fai arnaf am ddewis testun yr anerchiad hwn, beth bynnag fo'ch barn am deilyngdod ei gynnwys. Dyma ni heddiw'n cyfarfod yn eich capel yn Ninbych, i gofio cychwyn eich Cenhadaeth Gymraeg yn 1800. Wel, yn gyntaf, Thomas Coke o dre Aberhonddu a fu'n gefn i'r antur honno yn ail, John Hughes, o Aberhonddu eto, a anfonwyd gydag Owen Davies i'w chychwyn, a'ch cymdoges, tre Rhuthun, oedd eu gwersyll cyntaf; ac yn drydydd-a dyma efallai'r pwynt mwyaf diddorol i'n cyfeillion sy'n ymgynnull yn y capel hwn yn Ninbych-capel Dinbych oedd y cyntaf oll o'ch capelau Cymraeg. Ar ddydd Calan 1802, ac ar ddiwrnod o ddrycin, yr agorwyd ef, ac yr oedd John Hughes o Aber- honddu'n pregethu yn oedfa'r hwyr, ar Actau xxiv, 14. Y dyn John Hughes, er hynny, ac nid ei yrfa, a fydd gennyf y prynhawn hwn. Cewch hanes yr yrfa'n hwylus yn llyfr ein Golygydd ar Hanes Wesleaeth Gymreig, 1800-58; dechreuwch gyda'r tt. 87-9 a 123-7, ac yna chwiliwch y llyfr gyda help y fynegai-rhydd Mr. Williams ichwi hefyd ddigon o gyfeiriadau at y ffynonellau. Ni wnaf fi, felly, ond nodi camre'r yrfa ganed John Hughes ar Fai 18, 1776 derbyniwyd ef yn bregethwr yn eich Cyfundeb yn 1796 anfonwyd ef i Ogledd Cymru yn 1800. Llafuriodd yno hyd 1806 yna, digiodd yr awdurdodau wrtho am gymryd gor- mod hyfdra arnynt, ac alltudiwyd ef (ar wahân i ail dymor byr yn 1808 yn y Genhadaeth Gymraeg) i Loegr-neu o leiaf i gylchdeithiau Saesneg. Eisteddodd i lawr yn 1832 bu farw ar Fai 15, dridiau cyn cyrraedd ei ben blwydd, yn 1843, yn Knutsford, y dre fechan sy'n adnabyddus drwy'r byd dan y ffugenw Cranford.' Gyrfa siomedig, i raddau, oedd hon. Prin bod yr enw 'John Hughes o Aberhonddu,' mi gredaf, yn cyffroi unrhyw ymateb greddfol yn eich mynwesau chwi Wesleaid, llai fyth ym mynwesau dynion y tu allan i'r Cyfundeb, megis y mae'r enw John Evans, Eglwysbach,' dyweder. A bu eich hen haneswyr braidd yn feirniadol ohono. Dywedir inni na fedrai bregethu yn Gymraeg mai pregethwr sych ydoedd mai gŵr anhyblyg oedd ef, yn ceisio bod yn ben.' ^Darlith fiynyddol y Gymdeithas Hanes, a draddodwyd yng nghapel Pendref, Dinbych, Mehefin 3, 1947.