ac Awstralia. Esiampl o fawr esgeulustod Cyfundeb y M.C. oedd iddynt lwyr anwybyddu eu haelodau yn Aws- tralia er i'r Parch. William Meirion Evans, Ballarat, daer erfyn am eu cynhorthwy mewn Cymdeithasfa yn Lerpwl yn 1865, a buasai'r M.C. yn U.D.A. hefyd wedi eu llwyr esgeuluso onibai i ymweliad y Parchedigion Henry Rees a Moses Parry o Ddinbych â'r taleithiau hynny ychydig mwy na chan mlynedd yn ôl fod yn foddion i ysgogi y cysgaduriaid yn eu Cyfarfodydd Misol a Chymdeithas- faoedd ar ôl eu dychweliad i Gymru. Diymadferth hollol oedd y Cymry yn ninasoedd New York a Philadelphia yn ystod y cyfnod 1794-1824 parthed trefnu cyflenwad o bregethwyr cymwys i'r miloedd pobl unieithog a ymfudasai wrth y cannoedd o Lýn ac Eifion- nydd, Llanuwchllyn a'r Bala yn ystod y gwahanol flynydd- oedd rhwng 1794 ac 1819, ac er bod y Parch. John Williams o Garn Dolbenmaen yn bregethwr unieithog hollol gyda'r Bedyddwyr, gwell oedd ganddo droi i weinidogaethu ymhlith Saeson a Chymry Dic Sion Dafyddol dinas New York yn 1795 na gwasanaethu'r Cymry yn eu hiaith eu hunain, er gwybod ohono fod cannoedd o Gymry o Lýn a Llanuwchllyn wedi ymfudo i Sir Oneida talaith New York, a oedd ar y pryd yn byw mewn cylch bychan o'r wlad ac onibai i James Owen, Penycaerau, Oneida, N.Y. ac eraill ddal yn gyson i anfon llythyrau i'w cyhoeddi yn y Drysorfa rhwng 1825 ac 1830 ni fuasai Cymry Cymreig y rhan honno wedi goroesi eu cyfnod a dyfod y rhanbarth mwyaf Cymreig yn U.D.A. 0 1795 hyd heddiw. Yr unig fangre y gofalwyd am y Cymry yn y blynyddoedd cyntaf yn eu hiaith eu hùnain oedd Ebensburg Pa. yn y sefydliad a gychwynnwyd gan Morgan J. Rhys, George Roberts ac eraill ond oherwydd tlodi y lIe hwnnw o'i gymharu â'r rhannau gorllewinol, diflannu a wnaeth yr achos Cym- raeg yno o dipyn i beth. Llawer rhy chwannog oedd y Cymry ymhob enwad i ymrysoni, cweryla ac ymrannu mewn degau o'r Eglwysi fel y bu hynny hefyd yn foddion i'r Achosion Cymraeg ddiflannu yn llwyr. Go brin y cafodd y Wesleaid Cymraeg eu traed tanynt pan aethant i ganlyn y cannoedd Cymry eraill i wahanol sefydlfeydd Cymreig a oedd yn perthyn i sectau lluosocach eu haelodau na'u henwad hwy yng Nghymru, a rhaid cofio hefyd nad oedd y Wesleaid Cymraeg rhwng 1795 ac 1818 ond prin wedi dechrau yn ein gwlad fel mai o'r braidd yr oeddynt wedi creu traddodiad Wesleaidd Cymreig. Purion fyddai mynegi hefyd na chafwyd un math o sefydliad addysgol neu Golegol i feithrin a pharatoi pregethwyr a gweinidogion Cymreig yn holl Unol Daleithiau yr Amerig o 1795 hyd heddiw, ar wahân i'r sefydliad