Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hanrheithiaist, cymer feddiant o'm calon. Aeth pob cynhes- rwydd mwy ymaith ohoni; nis cyffwrdd dim hi mwy. Rho gymorth imi drechu'r olion pruddaidd a adawyd ohonof." Rhaid cofio nad oes dim rhyfygus neu ansympathetig yn naws y nofel hon. Nid yw hynny'n wir am Les Caves du Vatican ond mae'r un diffuantrwydd difrifol yn nodweddu'r Symphonie Pastorale a l'ímmoraliste, dwy nofel fer sy'n gampweithiau Uên, yn dilyn y traddodiad clasurol puraf gyda phatrwm meddylegol clir a sicrwydd gwiw mewn cyffyrddiad. Ceir dadrithiad cryf ar ddiwedd y Symphonie Pastorale hefyd: canys cenfydd yr offeiriad cydwybodol a gymerth ferch ddall i'w ofal nad cymhelliad ó dosturi Cristnogol a'i hysgogodd, eithr o dan rwydwaith y rhesymau cymeradwy, cymhelliad o serch rhywiol tuag at y ferch. Yn l'Immoraliste ysgrifennir yn eofn a dwys ynglyn â'r cyfeil- iornad oddi wrth foesoldeb uniongred a anweswyd gan Gide yn Algeria. Cymeradwyaf yn eiddgar y nofel hon i'r esprits serieux a wgodd yn dduwiolfrydig ar stori fer feistrïaidd Davies Aber- pennar, T Dyn a'r Llygoden Fawr, IIe ceir Sodomiaeth fel thêm eilradd. Byddai darllen l'lmmoraliste yn iechyd i'w henaid. Mor wahanol yw Gide, er peth tebygrwydd, i ddisgleirdeb arwynebol Oscar Wilde! Yr oedd Gide yn gythraul o bechadur ond yr oedd elfen o dduwioldeb yn ei bechadurusrwydd mwyaf. Saif Les Caves du Vatican yn unig ymhlith ei weithiau fel ymgais at y nofel ífantastig a ffraeth. Perthyn, serch hynny, i genre adnabyddus yn llên Ffrainc: y sotie. Mewn un ystyr, astudiaeth ydyw'r nofel hon gan Gide o fathau amrywiol o ffyliaid. Dyna Anthime Armand-Dubois, sy'n chwerthinllyd ar y dechrau am ei anffyddiaeth ddogmatig afresymol, ac wedi ei droedigaeth yn llawn mor chwerthinllyd am ei or-barodrwydd pïws i gredu popeth. Wedyn dyna Julius de Baraglioul, uchelwr a Ilenor sy'n breuddwydio'n unig am fynediad i'r Açademie dychanlun ydyw o'r awdur urddasol ond di-enaid. Drachefn dyna Amédée Fleurissoire, simpyl idiot crediniol a streifus. Yr unig gymeriad pwysig nad yw'n wrthrych dychan ydyw Lafcadio, èfallai. Mae ef weithiau yn mynegi syniadau Gide ei hun. Ond at ei gilydd, llyfr ydyw hwn yn llwythog gan ddychan hoyw ac áfreolus. Gellid meddwl bod ym mwriad yr awdur drin yma â mwy nag un thêm e.e., ymdrinir yn y rhan olaf â'r syniad o ryddid ewyllys dyn, a'r posibilrwydd bod rhai o'i weithredoedd y tu allan i gadwyn glos effaith ac achos. Ond yn ddiddadl y thêm canolog ydyw ffydd ac anffydd, credu ac anghredu, crefydd ac anghrefydd.