Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn awr, a pholisi pasifîìstaidd yn gyffredinol. Ond yn hytrach dengys yn fwy digamsyniol nag erioed nad yw yn bosibl rhyfela gyda boneddigeiddrwydd a thiriondeb. Os dymunir ennill rhyfel rhaid defnyddio pob modd diplomyddol a milwrol yn hollol ddiegwyddor a di- deimlad. Efallai mai gwendid sylfaenol y Saeson yw meddwl fod yn bosibl sefyll hanner y ffordd rhwng Hitleriaeth a Phasiffìstiaeth. Y mae dyfodol y byd yn gorwedd rhwng ysbryd Hitler a Gandhi; nid oes le i Chamberlain nag Attlee. Mae arwydd fod y cylch llywodraethol yn dechrau ofni syniadau'r heddychwyr a rhif y gwrthwynebwyr cyd- wybodol. Bob nos Sul ceir ymosodiadau dychrynllyd ar yr Heddychwyr gan Mr. Maurice Healy. Nos Sul, Ebrill 21, yr oedd yn ddig iawn yn erbyn "church divines, who quote texts to try to prove that Christ disapproved of force," ac ni fedrai roddi gwell ateb iddynt na'r hen destun diflas am Grist yn bwrw'r cyfnewidwyr arian allan o'r deml. Hefyd anturiodd gymharu y milwr Prydeinig â'r Crist yn rhoddi ei fywyd ar y groes. Nid oes angen dadlau'r fath lol. Ond y mae'n bwysig ei nodi fel arwydd o'r dirywiad sy'n prysur ymddangos y dyddiau hyn. Hysbyswyd eisoes fod llys milwrol cudd ym Mharis wedi bwrw pedwar a deugain o aelodau seneddol i'r carchar am bum mlynedd. Oddi ar hynny hysbyswyd fod cyfraith newydd mewn grym yn gosod cosb o farwolaeth am fod yn berchennog ar unrhyw ddalen yn annog gwrthwyneb- iad i'r rhyfel. Nid aeth Hitler ei hun, hyd yn oed, i'r fath eithahon â hyn. Dyma enghraifft o'r hyn a ddigwydd pan geisir ymladd Hitler â'i arfau ei hun. Parhau i fod yn chwerthinllyd o dwp a wna'r tribun- lysoedd o hyd. Y mis yma (Ebrill) cafwyd penderfyniad diddorol iawn gan Dribunlys y De pan roddwyd rhyddid diamod i wrthwynebwr gwleidyddol a oedd hyd yn oed wedi bod yn ymladd yn Sbaen! Rhaid eu llongyfarch