HELYNT Y CENHEDLOEDD BYCHAIN Ar ôl cyfarfod y Supreme War Council yn Llundain, Mawrth 28, yr oedd hi'n eglur ein bod ar fin dig- wyddiadau chwyldroadol yn hanes y rhyfel, ac yn arben- nig yng Ngogledd Ewrop. Hysbyswyd mesurau newydd at dynhau'r blocâd ac ar fore Llun Ebrill wythfed, hys- byswyd fod y Cynghreiriaid newydd osod mines oddi mewn i ddyfroedd tiriogaethol Norwy. Ar unwaith caed awgrym yn y wasg Almaenig y byddai ateb yr Almaen yn gyRym ac effeithiol; a chyn i bedair awr ar hugain fyned heibio yr oedd lluoedd Hitler wedi meddiannu Denmarc heb wrthwynebiad, a hefyd wedi taRu amryw gatrodau i mewn i Norwy. Y mae'r hyn a ddilynodd yn wybyddus i bawb. Maentumir gan rai i'r Almaenwyr baratoi'r strôc newydd hyn cyn gosod y mines gan y Cynghreiriaid, oherwydd, meddant, yr oedd angen llawer mwy na diwrnod i'r llongau Ellmynig gyrraedd hyd at leoedd pell fel Narfic. Ond wrth ystyried sgwrs Churchill pan ddywedodd: "We are on the eve of an intensihcation of the struggle, and we do not shrink from it," y mae eto yn eglur fod y Llywodraeth eisoes yn dymuno diwedd fel hyn i'r distawrwydd a oedd yn bygwth parhau am amser rhy hir. Sonnir yn awr fod yr Almaen wedi myned i mewn i fagl, ond os yw hynny yn wir, mae'n rhaid fod rhywun wedi'i baratoi. Ofer, yn wir, yw dadlau'r pwnc a rhannu'r cyfrifoldeb. Fe bery'r dirgelwch am gen- hedlaeth a mwy. Rhaid aros am ddyfarniad hanes. Dylid dysgu un gwers hyd yn oed yn awr. Ffrwyth union- gyrchol y polisi o ryfel yw'r digwyddiadau yn Sgandinafia, ac fe wyr pawb fod perygl i'r rhyfel ymestyn i wledydd bychain eraill. Dywedir fod yr ormes ar Ddenmarc a Norwy yn tanseilio grym y ddadl dros roi pen ar y rhyfel