DYDDIADUR TAITH I Gwnaeth darogan bolagynhyrfiol perchenogion holl- wybodus y Wasg Saesneg ynghylch dyddiad yr ar- gyfwng nesaf, un anghymwynas o leiaf â'r Almaen cleni; sef oedd honno, rhwystro cannoedd o ymwelwyr o'r wiad hon i roi tro amdani. Yr oedd tua phedwar cant o deithwyr ar fwrdd y llong a'n cludodd vn ddiogel, ond yn sigledig, i hafan Ostende y prynhawn Sul hwnnw, a'r mwyafrif ohonynt yn cario digon o fagiau trymion i'w cyflenwi â chrysau glân a hosanau cyfain am fisoedd o wyliau, gellid meddwl. Natunol ydoedd tybied y caem rai dwsenni ohonynt yn gymdeithion parchus a thawedog nes cyrraedd Cologne, ond buan y gwelwyd effaith propaganda asgwrn-grynedig papurau bob dydd Lloegr. Yng ngorsaf Ostende, ymhyrddiodd y dorf i gyfciriad trenau oedd a'u trwynau tua Ffrainc a chanolbarth Bel- giwm. Gadawyd pedwar neu bump yn unig i wynebu'r daith trwy feysydd gwenith Fflandrys, He bydd llwch merthyron y Rhyfel Mawr yn chwyrlio yn yr awyr fel paill maes o law oni roddir taw ar y siarad gwirion am ryfel, a chau cegan glafoerllyd y dryllau barus. Nid oedd pump person diniwed, serch hynny, yn ddigon i ddiwallu angen yr Almaen am ymwelwyr a'u harian. Nac oedd, o bell ffordd. A dyna'r gwyn barhaus a glywid ar bob llaw-prinder ymwelwyr a thlodi gwyr yr hotels o'r herwydd. Onid oedd hyn yn ddigon i gadarnhau haer- iadau'r Wasg Almaenaidd fod Prydain Fawr yn bendant o blaid iiyffetheirio'r Reich â chadwyn o elynion arfog? Nid unwaith na dwywaith y dywedwyd wrthym yn blwmp ac yn blaen fod Lloegr yn atal ei phobl rhag bwrw draw i'r