yddiaeth er ei mwyn ei hun, ac oni allwn ni ddal diddordeb y tyrfaoedd yn y Gymraeg fel cyfrwng adioniant yna fe ddiflanna cenhedlaeth ar 61 cenhedlaeth o ddarllenwyr Cymreig. Os esgeulusir y rhieni trwy wrthod iddynt y lenyddiaeth ysgafn a ddymunant, fe welir yr effaith yn fuan iawn ar y plant. Siawns bychan iawn fydd ganddynt o dderbyn llenyddiaeth Gymraeg o ddwylo eu rhieni, ac fel llawer iawn iawn o blant yng Nghymru, ysywaeth, fe'i megir ar lenyddiaeth ysgafn y Sais y mae'r fath doreth ohono wrth law beunydd. Cawsom brohad o'r peth ychydig wythnosau yn ôl. Cyhoeddodd Gwasg arbennig nofel ysgafn a rhoddwyd hi yn llaw gwraig o Gymraes na fydd hi byth yn darllen Cymraeg. Gofynnwyd wrthi am ei darllen a mynegi ei barn arni. Pur anfodlon oedd hi i gytuno gan y tybiai nad allai llyfr Cymraeg fod yn ddi- ddorol i un oedd wedi byw yng nghwmni Ethel M. Dell a'r cyfryw am oes gyfan, ond o'r diwedd cydsyniodd. Y tro nesaf y gwelsom hi, holasom hynt y nofel, ac er syndod mawr yr oedd hi'n adrodd fel y bu'n rhaid iddi aros ar lawr tan dri o'r gloch y bore er mwyn gorffen y stori. Y canlyn- tad oedd iddi rel Olifer Twist, ofyn am ragor, ac y mae un llyfrwerthwr ar ei ennill o un cwsmer newydd o leiaf. Gadawn ein llenorion cydwybodol ac ymwybodol i sgrif- cnnu eu campweithiau, ond gweddiwn am rywun a rydd mni lenyddiaeth ael-isel a geidw darllenwyr cyffredin ar eu traed tan dri ar gloch y bore