raeg fod yn iaith fodern, ac nid yn iaith y ddeunawfed gan- rif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. A daw hyn â ni at bwynt pwysig dros ben. Mae pawb sydd yn ymhel rywfaint ag iaith yn cytuno mai'r un peth sy'n angenrheidiol i barhad iaith ydyw ei bod hi'n symud ac yn newid o oes i oes ac yn barod bob amser i ateb i ofyn- ion yr oes neilltuol. Gellid aralleirio'r frawddeg Feiblaidd Lle ni byddo gweledigaeth methu a wna'r bobl a dweud Lle ni byddo datblygiad neu symudiad methu a wna'r iaith." A dyna fydd tynged yr iaith Gymraeg os na wnawn ni ymgais yn awr i ysgwyd yn rhydd oddi wrth cin syniadau hynafol a hen ffasiwn. Yr ydym yn rhy hoff o siarad am ein traddodiadau ac o ymffrostio yn y fîaith fod ein hiaith yn mynd yn ôl i'r chweched ganrif, ac y mae hyn wedi dwyn yn ei sgil cffeithiau drwg. Yr ydym wedi rhoi gormod o barch i'r iaith lenyddol, ac wedi ceisio ei chadw'n rhy bur. Nid ydym wedi rhoi digon o ystyriaeth i'r iaith lafar ac yr ydym heb sylweddoli mai'r iaith lafar yn y pen draw sydd bwysicaf. Os na cheidw honno'n rymus ac yn fywiog gallwn ffarwelio â phob gobaith y bydd i'n hwyrion siarad Cymraeg. Mae'n rhaid inni ofalu felly am gadw'n hiaith bob dydd yn ystwyth ac yn heini ac yn barod i ateb pob galwad a wneler arnL I sicrhau hynny y mae'n rhaid inni ffurfio geiriau ac ymadroddion newydd-a dyma Ie bydd y puryddion-y gwŷr hynny sydd yn cymryd arnynt gadw'r iaith yn bur ac yn ddilwgr-yn dechrau codi eu lleisiau. Ond atolwg, beth ddigwyddai petaem yn rhoi eu ffordd i'r puryddion?-byddai'n hiaith yn ymgaregu ac yn rhewi, nes o'r diwedd ni byddai'n medru llifo o gwbl. Dyma un arall o'n ffaeleddau ni-y ffraeo diddiwedd ar bynciau iaith. Chwi gofiwch i gyd am y dadlau brwd a fu ar y geiriau iachawdwriaeth a iechydwriaeth." Braidd na ollyngwyd gwaed oherwydd yr anghydfod a fu yr adeg honno.