GWAED NEWYDD MEWN IAITH MAe'r Pregethwr wedi dweud wrthym mewn geiriau grymus nad oes dim newydd dan haul." Gwir yw'r gair. Ond, er hynny, cerdded yn ei flaen y mae Amser ac y mae'n rhaid i bawb gerdded gydag ef neu aros yn ei unfan a threngi'n dawel. Ein gwendid mwyaf ni Gymry, mi dybiaf, yw glynu'n rhy ystyfnig wrth hen bethau-sôn yn rhy hiraethus am yr hen amser gynt a meddwl bod popeth da a llesol yn gorwedd yn ôl yn niwl- oedd y gorffennol pell. Ni chyfyngir y teimlad hwn i Gymry, wrth gwrs. Fe gofiwch am y Sais â'i good old days a'r Ysgotyn â'i auld lang syne — clodfori'r gor- ffennol y maent i gyd. Ond y mae nifer ohonom yng Nghymru sydd nid yn unig yn meddwl am y gorffennol ond hefyd yn byw yn y gorffennol-a dyna le mae'r perigl. Yr ydych yn gyfarwydd i gyd a'r gwyrda hynny sydd wedi colli eu Cymraeg i bob pwrpas ymarferol, ac am ryw reswm dirgel sydd yn derbyn gwahoddiad i lywyddu mewn Eisteddfod neu i fod yn westai mewn Cinio Gŵyl Dewi. Pan fo'r boneddigion hyn yn areithio dywedant bethau hyfryd iawn am yr iaith Gymraèg-ei bod hi'n iaith felodaidd, yn hen iaith, yn iaith yr Ysgol Sul a'r cartref, ac yn y blaen. Ac y mae'n rhyfedd cymaint o bobl sy'n coleddu syniadau felly am y Gymraeg. Yma eto ymdden- gys imi y rhoir y pwyslais yn y man anghywir. Dylem feddwl a siarad am y Gymraeg fel iaith bob dydd ymhob cylch-nid y capel a'r cartref yn unig, ond y fasnach, y gweithdy, y ffatri hefyd. Mewn gair, dylem glodfori'r Gymraeg am ei bod yn addas i bob pwrpas, ei bod yn iaith ymarferol ac yn gyfrwng i fynegi syniadau a meddyliau pob dyn fel ei gilydd-boed athro, boed weithiwr tún, boed bregethwr, boed lowr, boed ffermwr, boed wr sy'n cadw garage. Mae hyn oll gystal â dweud y dylai'r Gym-