DYDDIADUR CYMRO [O hyn ymlaen, bydd y nodiadau hyn yn dod oddi wrth wahanol sgrifenwyr, a gymer ofal amdanynt am ryw dri mis yr un. Bydd yr ysgrifenwyr hyn yn hollol rydd i ddatgan eu barn, ac ni byddant o angenrheidrwydd yn datgan barn HEDDIW. Y mis hwn y mae'n dda gennym groesawu Mr. Iorwerth C. Peate, Ceidwad Adran Diwylliant Gwerin yr Amgueddfa Genedlaethol.] CLYWAIS yn ddiweddar, ac o dro i dro trwy'r deng mlynedd diwethaf, gyfeiriadau sarhaus gan rai o'm cydnabod politicaidd at y Cymry hynny sy'n gwerthu eu hegwyddorion er mwyn swyddi." Hyd yn hyn ni thrafferthais drafod cyhuddiadau o'r fath, eithr credaf bellach y dylid ateb y bobl hyn yn blaen ac yn ddi-dderbyn- wyneb. Gwnaf hynny am resymau cyffredinol ac am reswm personol. Y rheswm personol yw fod y cyhuddiad hwn wedi'i daflu cyn hyn gan un neu ddau o bersonau ataf fi. Ystyrier cyRwr presennol Cymru yr angen mawr yw diogelu a datblygu diwylliant ac iaith Cymru ym mhob agwedd ar ein bywyd cenedlaethol. Ym mha fodd y gellir gwneud hynny? Deil rhai mai trwy berthyn i blaid bolitic- aidd a rhoddi ein holl amser ac egni i bregethu egwyddor- ion a daliadau'r blaid honno-ein gwneud ein hunain, os mynnwch, yn niwsans ym mhob man erddi. O'r gorau, y mae llawer i'w ddweud tros y dull hwn, ac yn ei erbyn. Cofiaf i Mr. George M. Ll. Davies ddywedyd un tro mai'r un peth a ddigwydd yn hanes pob plaid fe ennyn deyrn- garwch brwd ar ran y pleidwyr a gwrthwynebiad pendant y rhai na chredant ynddi-a chasineb a dig yw'r etifedd- ion. Pan ddigwydd hynny, ac y mae'n digwydd heddiw ysywaeth, achos Cymru sy'n dioddef, bydded y bai ar ba ochr bynnag a ddewisoch. Y dull arall o ddiogelu a datblygu diwylliant ac iaith Cymro-nid wyf yn awgrymu y dylai gymryd lle gwleid- yddiaeth — yw i'r Cymry cymwys gymryd swyddi yn y