iadau hyn pan ddaw gwyr eraill, ei gymheiriaid yn eu gwahanol gylchoedd­cyf’raith, masnach, diwydiant a gwleidyddiaeth- i ddilyn arweiniad Syr Artemus Jones ac i bwyso adref at gyd- wybod ein cymdogion yn Lloegr gri Cymru am gyfiawnder i'w phobl ac i'w hiaith yn ei llysoedd. GWILYM T. JONES. DRAMA A RADIO Y mae dau ddigwyddiad i'w nodi y mis yma sydd o bwys yn hanes Mudiad y Ddrama Gymraeg, sef Wythnos Ddrama Cymdeithas Abertawe a pherfformiad cyntaf Macbeth yn Gymraeg gan Gwmni Llanelli mewn cyd-weithrediad â'r Theatr Gened- laethol. Fe wyr pawb a wyr rywbeth am Fudiad y Ddrama Gymraeg am wasanaeth cyson Cwmni Abertawe ar hyd y blyny- ddoedd. Ni ddenwyd y cwmni hwn oddi ar y llwybr a bennodd iddo'i hun yn y cychwyn. Ychydig a wyddent pan gychwynasant y byddai i fudiad y ddrama droi fwy-fwy tuag at y Saesneg a thuag at gystadlu yn arbennig. Ymgadwodd y Cwmni hwn yn glir oddi wrth y ddau beth hyn a da y gwnaeth. Ac wrth eistedd yn y theatr yn Abertawe yn ystod yr wythnos ddrama ddiwethaf a gynhaliwyd ganddynt, a gweld y seti'n orlawn, teimlwn nad yn ofer y bu eu gwaith. Pan aeth yn ffasiynol i Gymry ymuno â chlybiau drama Saesneg, da yw gweld mewn tref gymharol Seisnig fel Abertawe gwmni cryf a fedr fynd i gostau o gannoedd o bunnoedd i roi urddas ar y ddrama Gymraeg drwy ei rhoddi yn y lle y dylai fod theatr iawn. Ac wrth sôn am y Mudiad Seisnig carwn ddweud un peth sydd wedi bod ar fy meddwl i'w ddywedyd droeon. Onid cyfrinach llwyddiant y rhan fwyaf o glybiau gorau'r Saeson ydyw fod ganddynt theatr fechan lle y gallant weithio'n gyson a dysgu'r cant a mil pethau sy'n angen- rheidiol eu dysgu os am gymryd llwyfannu dramâu o ddifrif ? Dibynna cwmni Abertawe yn gyfangwbl ar grwydro o stafell i stafell, ac ni cheir ond un practis ar lwyfan y theatr y diwrnod cyn y perfformiad. Gadewir yr holl waith o baratoi celfi'r llwyfan i rai o'r tu allan i'r cwmni. Pe bai ganddynt theatr iddynt eu hunain gallent gael diddordeb nifer fawr nad ydynt yn chwennych