Skip to main content

Y CERDDWR A'R FFORDD O BOB peth a wnaeth dyn erioed, odid bod yna yr un a'i swynodd yn fwy na'r ffordd. Arni hi y gweithiodd er bore glâs ei wawr, trosti y cerddodd o ganrif i ganrif a chyda hi y datblygodd yntau gan afradu ei gywreinrwydd arni a'i gwella o oes i oes. Erbyn heddiw y mae llyfrau lawer wedi eu hys- grifennu ar y ffordd ac ysgrifennodd Mr. R. T. Jenkins un o'i rai gorau ef ar y Ffordd yng Nghymru." Llawer ffordd sydd i fynd ar y ffordd. Ar feirch y byddai marchogion yr Oesoedd Canol yn mynd bob amser. A thyfodd o'r dull hwnnw o deithio fath o Urdd, gyda'i moesau mirain a'i rheolau manwl-dull a ledodd dros holl wledydd Cred. Dyna ydoedd y Sifalri y gŵyr pob plentyn ysgol amdano erbyn heddiw. Ac ystyr Sifalri ydyw marchogwriaeth, neu gym- deithas o rai'n marchogaeth yn ôl arferion Cristnogol a bon- heddig. Ni raid i neb, gan hynny, amddiffyn y ffordd honno o deithio ar y ffordd fawr. Y mae dull a arweiniodd i'r fath ddefodau heirdd, ac a roddodd esmwythyd a diogelwch, a thynerwch a gwasanaethgarwch, gyda'r weithred honno yn ei hamddiffyn ei hun. Un ffordd arall, wir deilwng a bonheddig, sydd i fynd ar y ffordd. Ie, un-dim ond un. Cerdded ydyw honno. Y mae'n hyn hyd yn oed na marchogaeth. Yn wir, nid oes dim mor hen â hi, ond dyn ei hun. Y mae mor hen ag yntau, a'r un mor ifanc. Arweiniodd hithau dro ar ôl tro i urdd neu frawdoliaeth y ffordd fawr, uchel gyfeillgarwch aristocratig priflyrdd y gwledydd. Dyna ydoedd Urdd odidog disgyblion Sant Ffransis. A dyna ydoeddUrdd asetig y Brodyr Duon- fforddolion holl randiroedd y GorUewin. Pa frawdoliaeth debyg i'r eiddynt hwy ? A pha beth a ddywedir am y pererinion mwynion, mud chwedl Lewys Glyn Cothi-y rhai a gerddai