Goleudy'r Cymry: Myfyrdod ar y Ficcr Prichard a'i 'GannwylP gan E. Wyn James Sgwrs a ddarlledwyd yn wreiddiol fel Epilog Radio Cymru, nos Sul, 4 Rhagfyr 1994. Fe'i cyhoeddir yma gyda chaniatâd caredig BBCCymru. Os ydych yn gyfarwydd â'r calendr eglwysig, fe fyddwch yn gwybod mai'r Adfent yw'r enw ar y cyfnod o bedair wythnos sy'n arwain at y Nadolig. Dod o air Lladin yn golygu 'dyfodiad' neu 'ymddangosiad' y mae'r gair 'adfent', a pharatoi ar gyfer Gwyl y Geni yw diben y cyfnod hwn, gan roi cyfle dros bedwar Sul i gofio am bedwar dyfodiad Iesu Grist: ei eni yn y cnawd ym Methlehem; ei eni'n ysbrydol yng nghalon pob Cristion; ei ddyfodiad i bawb yn awr marwolaeth; a'i ailddyfodiad buddugoliaethus yn niwedd y byd i farnu'r byw a'r meirw. Yn draddodiadol yn yr Almaen llunnir torchau Adfent ar gyfer y cyfnod hwn. Gosodir pedair cannwyll ar bob torch, ac fe'u goleuir o un i un ar y pedwar Sul cyn y Nadolig, fel bod y goleuni yn mynd ar gynnydd o Sul i Sul wrth i'r Nadolig nesáu ffordd hyfryd o ddarlunio'r ffaith ein bod adeg y Nadolig yn cofio am eni'r Hwn a gyhoeddodd yn ddi-flewyn-ar-dafod mai Ef yw Goleuni'r Byd. Mae sôn am ganhwyllau yn ein harwain yn ddigon naturiol at y Ficer Prichard. Un o ardal Llanymddyfri yn sir Gaerfyrddin oedd Rhys Prichard. Yno y ganed ef tua 1579; yno y treuliodd y rhan helaethaf o'i oes, yn ficer y plwyf; ac yno y bu farw tua diwedd 1644. Er iddo ddringo i swyddi uchel yn yr Eglwys Wladol, fel y Ficer Prichard, neu yn syml fel 'Yr Hen Ficer', y mae'n cael ei adnabod ar lafar gwlad hyd y dydd heddiw. Roedd yn byw ar adeg ddigon tywyll yn hanes Cymru o safbwynt ysbrydol, gydag anwybodaeth am yr efengyl yn rhemp ymhlith y werin bobl. Yn ôl pob sôn yr oedd yn bregethwr grymus; ond yn ddi-os, ei gyfraniad mawr tuag at symud y tywyllwch ysbrydol a oedd yn y wlad yr adeg honno oedd llunio cannoedd o benillion syml a chartrefol, er mwyn hyfforddi'r bobl gyffredin yn hanfodion y ffydd Gristnogol a'u dysgu hefyd sut oedd byw y bywyd Cristnogol o ddydd i ddydd.