Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Elfed: Emynydd yn ei Oes* gan Branwen Jarvis Nid i'n Cymru ni y perthyn Elfed. Wrth i mi baratoi'r ddarlith hon yr ymateb a gawn, gan y canol oed yn ogystal â'r hen pan soniwn am y testun, oedd 'Fe gefais siglo llaw ag Elfed' neu 'Fe glywais Elfed yn pregethu sawl tro', a'r sôn wedyn, bron yn ddi-ffael, am y llais swynol i'w ryfeddu a oedd ganddo. Mae'r presenoldeb corfforol yma gyda ni o hyd rywsut, heb sôn am bresenoldeb gair a meddwl drwy'r emynau. Mae'r emynau hynny yn rhan o wead cof ac ymadrodd nifer fawr ohonom, yn arbennig felly y rheini a faged gyda'r Annibynwyr. Pa ryfedd hynny, o gofio bod dros bedwar ugain o'i gyfansoddiadau yn YCaniedydd (1961) a mwy na hynny wedyn, dros gant, yn Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd (1921). Ond fe all yr agosrwydd hwn fod yn gamarweiniol. Mae cant ac un ar ddeg o flynyddoedd wedi mynd heibio er pan sefydlwyd Elfed yma ym Mwcle. Yn 1880, yr oedd Elfed, nid yn blentyn ym Mlaen-y-coed, ond eisoes yn cychwyn ar ei ofalaeth gyntaf. Yn weinidog ifanc, prynodd 'fwy nag un pâr o ddillad' gan Daniel Owen, 'gydag ambell ymgom yn yr ystafell fechan yng nghefn y siop'.1 Bywyd cyfnod Daniel Owen a ffurfiodd Elfed, a chariodd gydag ef, drwy ei oes faith, lawer iawn o nodau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd Elfed bedair blynedd eithriadol o hapus yn gweinidogaethu ym Mwcle. Ymwelodd â'r eglwys am y tro cyntafym mis Mawrth 1880, ac aeth yno am yr eildro ym mis Mai. Mae'n disgrifio'r ymweliadau hyn yn ei atgofion mewn geiriau sy'n ei ddangos 'ar ei elfedeiddiaf, a defnyddio ymadrodd Tegla:2 Ym mis Mawrth yr oedd cuwch ar Foel Famau heb nemor wên haul: ond gwên oedd ar y moelydd a dyffryn Alun fis Mai. Gwelais bob gwedd a lliw ar y Foel Famau a'i thwr, am rai blynyddoedd ar ôl hyn: clywais ambell hwyrnos swn dwfn mud o'r tu cefn iddo, y dywedid mai atsain ydoedd o ddrycin pell ar y Werydd. Ond bum hefyd ar ei gopa ynghanol mwynder haf a phêrarogl y grug a blodau'r uchelfeydd. Nid yw byth wedi mynd allan o'm bywyd. Daeth yr alwad, a chredais mai dyna arweiniad cyfrin Ragluniaeth; ac nid oes gennyf Ie i amau tiriondeb ei llaw na diddosrwydd ei haden.3 Bu cyfnod Elfed ym Mwcle yn gyfnod o gynnydd a ffyniant yn hanes *Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru am 1991, a draddodwyd ar ddydd Mercher, 7 Awst 1991, ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn.