Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwent a'i Hemynwyr gan Siân Rhiannon Yn rhifyn diwethaf y Bwletin cyhoeddwyd banner cyntaf darlith Dr. Siân Rhiannon ar emynwyr Gwent, sef Darlith Flynyddol Cymdeithas Emynau Cymru am 1988 a draddodwyd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Dyma yn awr ail hanner y ddarlith honno. Yr oedd y cyfnod y bu Thomas Davies yn Argoed yn gyfnod o drawsnewid aruthrol yng ngorllewin Sir Fynwy. Rhwng 1801 a 1841 roedd poblogaeth y sir yn tyfu'n gynt na phoblogaeth unrhyw sir arall yng Nghymru a Lloegr-a phoblogaeth Is-Ardal Gofrestru y Fenni, er enghraifft, ardal a gynhwysai blwyfi enfawr Bedwellte ac Aberystruth, wedi cynyddu o ryw ddeg mil ar ddechrau'r ganrif i dros naw deg o filoedd yn 1841. Ac fe gafwyd twf cyffelyb yn Is-Ardaloedd Cofrestru Pont-y-pwl a Chasnewydd hefyd. Mewnfudo oedd yn bennaf gyfrifol am y twf, wrth i bobl ddylifo i'r ardal i chwilio am waith yn y gweithfeydd haearn a'r pyllau glo. O fewn cyfnod cymharol fyr, fe'i trawsnewidiwyd o fod yn weundir anghysbell i fod yn ganolfan i ddiwydiant byd-eang. Cymry Cymraeg oedd y mwyafrif mawr o'r mewnfudwyr cyntaf hyn, a'r rheini'n hanu yn bennaf o siroedd Morgannwg, Brycheiniog, Caerfyrddin, Ceredigion, gogledd Penfro a Threfaldwyn. Daeth llawer ohonynt â'u crefydd i'w canlyn, ac o ganlyniad cafwyd twf aruthrol yn nifer y capeli Cymraeg. Gwelwyd enwad y Methodistiaid yn cryfhau o dan ddylanwad mewnfudwyr o Sir Gâr a Sir Aberteifi, ac yn yr un modd daethpwyd â Wesleaeth Gymraeg i'r sir am y tro cyntaf wrth i bobl Llanidloes a Thre'r-ddôl ymsefydlu yma. Oedd, roedd 'na fynd mawr ar grefydd; a'r grefydd honno'n fodd i gynnal hen werthoedd mewn cymdeithas newydd ansicr ac anghyfiawn. Yn hanner cynta'r ganrif felly roedd cymoedd Sir Fynwy'n ferw o weithgarwch crefyddol a llenyddol Cymraeg, a'r syndod mawr wrth sylweddoli cryfder yr elfen grefyddol Gymraeg yn y gymdeithas yw na fu i'r ardal gynhyrchu mwy o emynwyr. Roedd yma ddigonedd o fân feirdd a llenoríon-llawer iawn ohonynt yn hoff o ganu ar destunau crefyddol-ond am ryw reswm, digon prin yw'r emynwyr yn eu plith. Serch hynny, mae yna ambell un sy'n ddiddorol, er efallai nad ydynt yn haeddu'r teitl 'emynydd'. Yn wahanol i fwyafrif y boblogaeth Gymraeg yn y blynyddoedd hyn, gwr nad oedd yn ddyn dwad oedd Abel Edmunds. Magwyd ef ar fferm Blaen Rhymni Fawr ar ben uchaf Cwm Rhymni, Ue bu ei deulu'n