Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

llyfrau Trefeca, ond nid wyf yn berffaith sicr o'i berchenogaeth-gweler Glyn Tegai Hughes, 'Llyfrgell Pantycelyn', Y Traethodydd, cxlvi, rhif 621 (Hydref, 1991), t. 228, a 'Pantycelyn a'r Piwritaniaid', yn Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn, gol. D. Llwyd Morgan, Llandysul, 1991, t. 53. "Gweler Gomer M. Roberts, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, xxix (1944), tt. 57, 59 a xxxiii (1948), tt. 48, 51. 26James Hervey, 'Reflections on a Flower-Garden' a gyhoeddwyd yn y gyfrol Meditations on the Tombs (1745-6). Dyfynnir o argraffiad 1747, tt. 37 a 47. Fe geir enghreifftiau llawer mwy cymhleth a diddorol o ddefnyddio gardd, blodau a llysiau fel delweddau ysbrydol yng ngwaith y bardd Americanaidd Edward Taylor (1642-1729); gweler Karen E. Rowe, Saint and Singer. Edward Taylor's Typology and the Poetics of Meditation, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1986, yn enwedig tt. 250, 259-60 a 274. Diddorol sylwi hefyd ar boblogrwydd (naw argraffiad cyn 1640) y casgliad Piwritanaidd A Garden of Spiritual Flowers. Planted byR[ichard] Rlogers], WilHiam] Per[kins], Rilchard] Greelnham], M.M. andGeolrge] Weblbe], Llundain, 1625. 27L. Haydn Lewis, 'Daucanmlwyddiant y "Ffarwel Weledig" YDrysorfa, cxxxiii (1963), t. 78; Gwilym R. Jones, 'Williams, Bardd y Seiat', Y Traethodydd, cxxv, rhif 536 (Gorffennaf, 1970), tt 169-70. 28Gweler Gomer M. Roberts, Y Pêr Ganiedydd, U, Aberystwyth, 1958, tt. 103, 107, 108; a J. Lloyd Jones, 'Mesurau Pantycelyn', YDrysorfa, cvi (1937), tt. 12-13. Y mae Frank Baker yn Representative Verse of Charles Wesley, Llundain, 1962, t. 33 yn cyfeirio at 'this stirring metre which became one of his [Charles Wesley's] favourites'. ^On VII, 'Twyll y Byd', o'r 'Caniadau Duwiol' yn y Môr o Wydr, 1762: Cynhafal I, t. 249. «Gweler Glyn Tegai Hughes, Williams Pantycelyn, 1983, tt. 107 a 130. [Yn 1952] y cefais i'r pleser o ganu gyda Trevor [Anthony] am y tro cyntaf a hynny mewn perfformiad o'r oratorio Sant Pawl (Mendelssohn) gyda Chôr Unedig Dowlais, o dan arweiniad D.T. Davies, ar Ddygwyl Steffan rhewllyd. Achlysur fawr iawn oedd hon i mi. Fe'm magesid i goleddu'r syniad mai i lawr yn y De yr oedd y corau a'r cantorion gorau yn y byd i gyd. (Gwaded a wado,-dim ond crybwyll un o ffactorau cyflyrol fy mhlentyndod yr ydw i!) Fy ngwraig a minnau'n gyrru yn yr hen Ffordyn bach trwy'r rhew a'r eira a chyrraedd Capel Bethania mewn da bryd ar gyfer y rihyrsal am ddau o'r gloch. Sôn am nerfau! Ond, diolch i'r Drefn, roedd yr oerfel yn esgus parod dros fy nghryndod, a phawb yn hynod o ffeind yn enwedig y 'canwr mawr o Lundain'. Rwy'n cofio'n glir fel y cymhwysodd ei lais trwm a chyfoethog yn ystod ein deuawdau i gydbwyso â'i bartner oedd gymaint ysgafnach o ran llaís-a chorff, y pryd hynny. Trwy gyd-ddigwyddiad rhyfedd, a'r perfformiad ar ei hanner, fe ballodd goleuadau'r capel, newydd i Saul gael adfer ei olwg yn Namascus, a buom ninnau yn y tywyllwch, yn llythrennol felly, am dros hanner awr. Ni bu cynnwrf o fath yn y byd. Toc, clywsom lais lliniarus D.T. Davies yn cyhoeddi emyn, gan nodi'r cywair i'r gerddorfa a'r organyddes, ac fe gafwyd cymanfa fer ddifyfyr fyth-gofiadwy yn y fan a'r Ue. A dyna ganu! Pob gair a glywswn gynt am ganu 'pobol y Sowth' yn cael ei wireddu a'i angerddoli yno yn y tywyllwch annisgwyl. 'Pan oeddym ni mewn carchar tywyll du, Rhoist i'n oleuni A oes canu fel'na yn Nowlais heddiw, tybed? Gobeithio felly'n wir. -John Stoddart yn Barn, Gorffennaf 1985