Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. II Rhif 9 Golygydd: E. WYN JAMES, B.A. Rhifyn 1986-87 Y Gymanfa Ganu: ei Gwreiddiau a'i Natui Ddeng mlynedd a thrigain yn ol,* pan gynhaliwyd yr Eistëaöftra Genedlaethol yn Aberystwyth, cynhwyswyd yn rhan o'i gweith- gareddau Gymanfa Ganu Genedlaethol. Er bod cymanfaoedd canu enwadol wedi'u cynnal ym mhafiliwn yr Eisteddfod fwy nag unwaith cyn hynny, hwn oedd y tro cyntaf i'r Eisteddfod fabwysiadu cymanfa ganu fel un o gyfarfodydd yr wyl ei hun. Bellach daeth yn hen arfer. Amcan y symudiad newydd hwn yn 1916 oedd, yng ngeiriau'r rhagair i raglen y gymanfa, 'rhoddi cyfle i genedl grefyddol fynegi ei theimlad dyfnaf mewn amser mor enbyd, — canu hymnau annwyl ar donau Cymreig ynghanol rhyfel fwyaf y byd'; a chynnig 'maeth ysbrydol i bawb [trwy ganu ] moliant melys i foddi swn y fagnel, pe ond am ennyd yn unig'.1 Er na ddatgelwyd hynny ar y pryd, daeth yn hysbys erbyn ailadrodd yr arbrawf yn Birkenhead y flwyddyn wedyn mai'r impresario gwleidyddol Cymreig, a ddaethai erbyn hynny'n BrifWeinidog, David Lloyd George, oedd prif ysgogydd y pethau hyn. Teimlai ef 'nad yw'r byd eto yn gwerthfawrogi swyn ac ysbrydoliaeth hen donau cynulleid- faol Cymru,' a bod gan y genedl gyfraniad pwysig i'w wneud i gerddoriaeth gysegredig y byd. Chwilio moddion 'bendith, ysbrydiaeth a chysur i aml un sydd mewn pryder a thristyd' yr oedd trefnwyr y ddwy gymanfa, ac roedd yn amlwg iddynt mai cynnal cymanfa ganu oedd y dull gorau a'r dull naturiol o geisio'r bendithion hynny. Erbyn 1916 yr oedd y gymanfa ganu yn sefydliad Cymreig, yn ddigon o sefydliad i'w glymu wrth sefydliad cenedlaethol arall. Os mynnwch, yr oedd wedi dod yn rhan o'r 'ffordd Gymreig o fyw'. Edrych yn ôl y byddwn ni heddiw o 1916 dros hanner canrif o ddatblygiad y gymanfa ganu a holi beth oedd ei tharddiad hi a'i natur; holi hefyd a fu newid yn ei natur; ac a oedd y sefydliad cenedlaethol a orseddwyd yn eisteddfod Aberystwyth yr un â'r gymanfa ganu Anerchiad a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru ar ddydd Mercher, 6 Awst 1986, ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes Eistedd- fod Genedlaethol Abergwaun a'r Fro.