a gynhwyswyd yng nghasgliad S.R. ac sydd hefyd yn nodi achlysur cyfansoddi rhai ohonynt. O blith yr enghreifftiau o fesurau ar ddechrau'r casgliad, mae'r pennill ar Fesur 55 (t. 9) yn waith Josiah, ac fe'i cyfansoddwyd ar gais S.R. er mwyn cael pennill boddhaol ar y mesur hwnnw i'w gynnwys ymhlith yr enghreifftiau. Yna, yng nghorff y llyfr, Josiah Brynmair biau emynau 46, 88, 356, 607, 791, 792, 879, 967, 970, 986, 1158, 1283, 1390, 1560 ac 1562. Cyfan- soddwyd rhif 46 ar ôl darllen pregeth ar Fyrdra Amser tuag 1824. Bu rhifau 88 ac 1560 yn fuddugol mewn Cyfarfod Llenyddol yn yr Hen Gapel yn 1822, a rhifau 791-2 yn fuddugol mewn cyfarfod cyffelyb yn 1823. Cyfansoddwyd rhif 879 erbyn Cyfarfod y Bobl leuainc pan oedd yn mynd i'w cyfarfodydd bob wythnos yn yr Hen Gapel yn 1822. Lluniwyd rhif 967 ar adeg cynhaeaf a rhif 1562 yn amser y geri marwol. Fel y nodwyd eisoes, cyfansoddwyd rhif 1283 yn 1825 'pan oedd y cyfarfodydd gweddïo yn hynod o fywiog yn yr ardal'. Lluniwyd rhif 986 ar ôl gwrando pregeth gan S.R. ar y testun 'Llusern yw dy air i'm traed', a chyfansoddwyd rhif 1390 ar gais S.R. am emyn ar gyfer ei gasgliad a fyddai'n addas i'w ganu ar adeg y cymundeb. Y Drenewydd. ANGELA BENNETT Cyfieithiad o Emyn gan S.R. Daeth pamffled a argraffwyd gan Hugh Jones (1820-66), Heol Stanley, Caergybi i'm meddiant yn ddiweddar sy'n cynnwys 'Hymn Americanaidd' deuddeg pennill sy'n dechrau 'A welsoch chwi ef?' a hefyd 'Penillion Ar fy Nhad sydd wrth y Llyw. Cyfeithedig [sic] gan y Parch. S. Roberts, Llanbrynmair' pum pennill: Draw, draw ar y cefnfor ar noson ddu oer, 'Roedd cwch bach yn hwylio heb seren na lloer; A rhuad y tonnau, y gwyntoedd a'r gwlaw, A lanwai fynwesai y morwyr o fraw. Ond bachgen y cadben, yn llawen a tton, A dd'wedai dan wenu heb ddychryn i'w fron, Er gwaethaf y tonnau awn adrefynfyw; Pa raid ini ofnil Mae Nhad wrth y Llyw. O blentyn y nefoedd! paham mae dy fron Mor ofnus wrth weled gwyllt ymchwydd y don? Mae'r dyfnder du tywytt yn rhuo gwir yw, Ond diogel yw'thfywyd, Mae'th Dad wrth y Llyw.