Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. II Rhif 6 Golygydd: E. WYN JAMES, B.A. Rhifyn 1983 Emynwyr Abertawe Efallai mai cystal fyddai ceisio egluro'r hyn a olygir wrth Abertawe i ddibenion y sgwrs hon, oblegid yn ogystal â dynodi'r dref (neu'r ddinas) fawr boblog hon lle y cynhelir yr Eisteddfod eleni,* mae Abertawe'n enw ar ardal go eang. Mae'r dref ei hun, fel yr awgryma'r enw, a'r ffurf Saesneg yn fwy eglur fyth, yn hen sefydliad. Yng nghronicl Anghydffurfiaeth mae iddi hanes anrhydeddus. Yma y bu Marmaduke Matthews ac Ambrose Mostyn yn cynnull eglwys, Daniel Higgs yn gweinidogaethu, a Stephen Hughes yn tystiolaethu. Ond pwysicach o safbwynt hanes crefydda yn y Gymraeg, ac yn wir yn hanes y diwylliant Cymraeg, yw'r pentrefi a'r ardaloedd sy'n cadw'u hunaniaeth heddiw ond a fyddai'n unedau amlycach fyth mewn cyfnod llai poblog. Yr Abertawe letach hon, o anghenraid, fydd dan sylw yma, o Sgeti i'r Coced, Fforest-fach (neu'r Gendros), Llangyfelach, Mynydd-bach, Treforys, Tre-boeth, Glandwr, Llansamlet. Nid awn i fyny Cwm Tawe i Glydach a'r Glais, ond dychwelyd gyda glannau afon Tawe yn ôl i lan y môr. EMYNWYR UNIGOL O fewn y terfynau hyn bu amryw o feirdd yn canu emynau, ond prin eu bod yn emynwyr os cadwn yr enw hwnnw ar gyfer y rheini y mae emynau'n brif gynnyrch eu barddoni. Rhyfedd cynifer o feirdd 'un emyn' sydd. Y mwyaf cyfarwydd yn ddiau yw Daniel James ('Gwyrosydd'; 1847-1920), y gwerinwr a'r gweithiwr cyffredin a gyhoeddodd ddwy gyfrol o Ganiadau, cerddi, adroddiadau, ambell englyn, un neu ddau o emynau, sydd wedi mynd i ebargofiant, ond a roes inni 'Calon lân' yn Caniadau 1892. 'Dim ond calon lân sy'n medru/Canu'r dydd a chanu'r nos' meddir yno, lle y ceir hefyd drydydd pennill a hepgorir o'r holl lyfrau emynau diweddar: Einioesfrau yn ddu gan ofid Fedd pleserau'r byd rìi glod Ondymchwydda llanw gwynfyd Calon lân tra'r nefyn bod. Anerchiad a draddodwyd yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Emynau Cymru yng Nghapel Bethel, Sgeti, ar ddydd Iau, 5 Awst 1982, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch.