Dywaid Arthur ap Gwynn hefyd na sgrifenasai ei dad byth 'ffolinebau' y trydydd pennill — dyna a geir yn y Llawlyfr Moliant a'r Caniedydd. 'Yr oedd fy nhad yn erbyn ffurfiau fel 'diddordebau' a ffurfiau lluosog ar eiriau haniaethol eraill', meddai (Goleuad, 12-4-72). Dyma bennill cynta'r 'Emyn Gosber' fel y mae ar y CerdynCoffa(1949): Panfo'n blynyddoedd nVn byrhau, Panfó'r cysgodion draw'n dyfnhau, Tydi, yr unig Un a wyr, Rho olau haul ym mrig yr hwyr. Bu'r Canon John William Wynne-Jones (1849-1928) yn ficer Caernarfon am bron bymtheng mlynedd ar hugain (1885-1919), a chyn hynny, wedi cyfnod yn Neheudir Cymru am ryw wyth mlynedd, yr oedd wedi gwasanaethu fel curad yng Nghaernarfon. Yr oedd yn ffigur adnabyddus yn y dref. Yn ystod ei ficeriaeth ef codwyd pig twr Eglwys Crist, ac fe erys hwnnw — 140 troedfedd o uchder i'w goffáu. Ond llawer teilyngach coffâd iddo yw'r gwaith a gyflawnodd yn y dref, cyn iddo ymddiswyddo i fyw yn hen ynys ei faboed, gan wasanaethu cyn diwedd ei oes fel rheithor Llantrisaint ym Môn. Bu farw 27 Hydref 1928. Yr oedd ganddo ddiddordebau llenyddol cryf. Gwelir ei gyfieithiad i'r Saesneg o 'Hwiangerdd Sul y Blodau' ac 'Ora Pro Nobis' Eifion Wyn yn Telynegion Maes a Môr (1906). [Ceir erthygl fer ganddo ar broblemau cyfieithu barddoniaeth o Gymraeg i Saesneg yn Welsh Notes (Bangor, 1913), sef casgliad o erthyglau a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn y Liverpool Courier dan y ffugenw Glendower. Gol.] Cyfieithodd emynau o'r Saesneg i'r Gymraeg. Dyma'r pennill cyntaf o'i gyfieithiad o emyn gan Syr H. W. Baker, allan o Emynau Hen a Newydd (1954): O Dduw y Cariad, Brenin Hedd, Cymell y byd i weinio'r cledd; Cynddaredd dynion ffrwyna Di; Rho hedd drachefn, rho hedd i ni. Yr oedd ganddo reswm teuluol a chysegredig dros weddïo fel hyn, gan iddo golli ei unig fab Morys yn y Rhyfel Mawr yn 1914. Sylwais yn yr un gyfrol ar emyn gwreiddiol o'i eiddo, 'Arglwydd bywyd, Deyrn gogoniant (rhif 380). Efallai fod ei ddawn i gyfieithu'n gryfach na'i ddawn i greu. Un arall o ficeriaid Caernarfon a gyfrannodd, ac sy'n dal i gyfrannu i fyd yr emyn yw'r Canghellor J. H. Williams (g. 1906). Ei flynyddoedd yng Nghaernarfon fu 1955-1970. Llesteiriwyd ei weinidogaeth ym mhlwyf Llanbeblig gan afiechyd, ac ymddis- swyddodd yn 1970. Gwelir nifer o'i gyfieithiadau o'r Saesneg i'r Gymraeg yn Llyfrau