Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

istiaid (1927), sef rhifau 42, 46, 93, 137, ac anthem 40. Cyfieithiadau yw'r emynau o Sant Ffransis, 'Popeth a wnaeth ein Duw a'n Rhi'; Walsham How, 'Am rif y saint y sydd o'u gwaeau'n rhydd'; W. Chalmers Smith, 'Ti Dduw unig ddoeth, y goleuni a'th gêl' a Sant Bernard, 'Pêr fydd dy gofio, Iesu da'. Ymddangosodd dau o'r cyfieithiadau hyn yn flaenorol yn A Students' Hymnal Sir Walford Davies (1923) [ynghyd â dwy garol gwreiddiol ac un cyfieithiad. Dywed David Jenkins yn Thomas Gwynn Jones (Gee, 1973), t. 320, iddo gyfieithu nifer da o emynau yn unswydd gogyfer ag argraffiad o'r casgliad Catholig, Emynau Mynwy, ond nad oedd am i'w enw fynd wrthynt. Gol.]. Fe ddywedodd T. Gwynn Jones yn Trysorfa'r Plant (Mai 1938), 'Ni bûm erioed yn ddigon hy i lunio un emyn fy hun, er fy mod yn hoff o lawer o emynau, ac yn hoffach bellach nag y byddwn gynt Fodd bynnag gwelir T.G.J. wrth droed y pennill cyntaf o rif 795 yn Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr: O Arglwydd da, pawb a'th fawrha A'n beiau a addefwn, Ac arnat Ti gweddîwn ni, Mewnffydd o'thflaen y llefwn; O cymer Di ein rhoddion ni Ä'n cân o glod, i'n gweddi dod Yfendith, Dad, a grefw.* Ond prif gyfraniad T. Gwynn Jones i fyd yr emyn yw ei 'Emyn Gosber'. Fe ysgrifennodd y diweddar Barch. William Morris i'r Goleuad yn ystod 1972 i ddweud am y wybodaeth a dderbyniodd o law Mr. Arthur ap Gwynn (mab T.G.J.), ynglyn â'r emyn arbennig hwn. Dyma a ddywedir am yr amrywiol brintiadau ohono: 1. J. T. Rees, Iesu biau'r Gân [1939], t. 79. t 2. Y Goleuad, 31 Ionawr 1940, t. 1. 3. Yr Eurgrawn, Ebrill 1940, t. 120. 4. Y Cerdyn Coffa, mis Mawrth 1949. 5. Y Tyst, 24 Mawrth 1949, t. 1. 6. Llawlyfr Moliant, 1952, emyn 162. 7. YCaniedydd, 1960, emyn 163. 8. Yr Eurgrawn, Haf 1970, t. 84. 9. Y Goleuad, 2 Chwefror 1972, t. 1. [Mae hawlfraint gweithiau T. Gwynn Jones yn eiddo'r teulu o hyd, wrth gwrs, a diolchwn i Mr. Arthur ap Gwynn am ganiatâd i ailgyhoeddi ei waith yma. Gol.]. t [Yn ôl T. Ifor Rees (Goleuad, 23-2-72), fe'i hysgrifennwyd ar gais J. T. Rees i'w gynnwys yn y llyfr hwn. Gol.]