Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cyf. 1. Golygydd Y Parch. Gomer M. ROBERTS, M.A., Gorff. Rhif 7. Llandybïe, Dyfed. 1974 JOSEPH DAVID JONES (1827-1870)* ERBYN heddiw cyhoeddwyd amryw lyfrau ar wahanol agweddau ar gerddoriaeth yng Nghymru, a chyfeirir yn rhai ohonynt at J. D. Jones. 'Does neb wedi ysgrifennu cofiant iddo er bod llyfrau sylweddol am rai o'i gyfoeswyr-Ieuan Gwyllt, John Ambrose Lloyd a Thanymarian. Ar wahân i dair tudalen a hunangofiant, nid oes dim i'w gael amdano. Hyd yn oed yn llyfr gwerthfawr Idris Lewis, Cerddoriaeth yng Nghymru, rhyw hanner anwybyddu J. D. Jones a wneir er ei fod yn rhoi sylw mawr iawn i'w gyfoes- wyr. Ac wrth sylweddoli fod gwrthrych yr anerchiad hwn wedi byw yn Rhuthun o 1851 hyd ddiwedd ei oes mae'n resyn nad oes gair amdano yn ysgrif Mr. Frank Price Jones yn Rhestr Testunau Eisteddfod Dyffryn Clwyd, nac ychwaith yn y rhagair a sgrifen- nodd Dr. Kate Roberts i Raglen y Dydd. Gobeithiaf felly fod yr hyn sy'n dilyn yn llwyddo i lanw'r bwlch yma yn hanes cerddor- iaeth Cymru yn ystod blynyddoedd canol y 19eg ganrif. Y Cefndir. Cyn y gallwn gael syniad clir am waith cerddorol J. D. Jones, rhaid imi sôn ychydig am ddigwyddiadau cerddorol Cymreig tua chanol y 18fed ganrif. 'Roedd y rheini i gyd yn offerynol eu naws. Casglwyd a chyhoeddwyd nifer o alawon telyn. Cyn 1809 yr oeddynt oll heb eiriau, ond yn aml ychwanegid amrywiadau atynt. Meddai J. Lloyd Williams: Dyma oedd ffurf uchaf y gelfyddyd yng Nghymru ar y pryd. Yn 1809 rhoddwyd cam ymlaen. Heblawr alawon a gyhoeddwyd gan y Dr. William Crotch, dechreuodd John Parry (Bardd Alaw) gyhoeddi ei Welsh Anerchiad a draddodwyd gerbron Cymdeithas Emynau Cymru adeg Eistedd. fod Rhuthun yn Awst 1973.