Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BWLETIN CYMDEITHAS EMYNATmÍYMRU Cyf. 1. Golygydd: Y Parch. Gomer M. ROBERTS, M.A., Gorff. Rhif 6. Llandybïe, Sir Gaerfyrddin 1973 CYMDEITHAS EMYNAU CYMRU Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas yn Hwlffordd ym Mhabell Lên yr Eisteddfod Genedlaethol brynhawn Iau, Awst 10. Er bod yr amser braidd yn anghyfleus, gan fod cyfarfodydd eraill ar yr un adeg, daeth dros hanner cant ynghyd i wrando ar y Parch. Gomer M. Roberts, M.A., yn annerch ar Emynwyr Dyfed. Rhagflas oedd yr anerchiad o wledd a geir yn yr ymdriniaeth lawn yn rhifyn nesaf y Bwletin. Gyda siom, y clywodd yr aelodau fod sylfaenydd y Gymdeithas a'i hysgrifennydd ymroddgar, y Parch. Brifathro D Eirwyn Morgan, M.A., B.D., yn gofyn am gael ei ryddhau o'r ysgrifen- yddiaeth oherwydd gwaeledd. Derbyniwyd ei ymddiswyddiad gyda gofid, a chyda diolch am ei waith mawr a'i symbyliad i'r Gymdeithas, a dymuno iddo adferiad buan a llwyr. Etholwyd y Parch. Dafydd Wyn Wiliam, M.A., B.D., A.T.S.C., Pontyberem, yn ysgrifennydd yn ei le, ac ail-etholwyd y swyddogion eraill. Yr oedd pumed Bwletin y Gymdeithas wedi ei ddosbarthu, a'r fantolen ariannol ynddo. Ymddengys nad oedd pob aelod wedi talu ei danysgrifiad am y flwyddyn ddiwethaf. Cedwir y tan- ysgrifiad ar y swm isel 0 25c rhag bod rhwystr i neb ymaelodi. Caiff pob tanysgrifìwr gopi o'r Bwletin sy'n cynnwys yr anerchiadau a draddodir yn y cyfarfodydd blynyddol, a chyfraniadau eraill o ddiddordeb ar emynyddiaeth. Yn unol â pholisi'r Gymdeithas n roi sylw hefyd i emyndonau, a chan mai yn Rhuthun y cynhelir y Cyfarfod Blynyddol nesaf, penderfynwyd ar J. D. Jones, y cerddor, a gadwai Ysgol Ramadeg yn y dref honno ym mlynyddoedd olaf ei oes, fel testun yr anerchiad am 1973. Bodlonodd Mr. Alun Davies, Llundain, ymgymryd a'r gwaith o annerch ar y testun. E. D. Jones, (Lìywydd).