yn 1755, ond nid oes unrhyw debygrwydd rhwng hwn a'r gyfrol dan sylw. Argraffodd Ross nifer o weithiau i Rhys ac y maent i gyd yn enghreifftiau o argraffu destlus. Erbyn hyn, cefais gyHe i weld ymron yr holl weithiau y gwyddys i Ross eu hargraffu, a'r unig ddiffyg y gellir ei nodi ynddynt ydyw'r defnydd a wnaeth ar bapur gwael ar adegau. Nid oedd ei grefftwaith fyth yn ddiffygiol. Erys enwau Evan Powell a Rhys Thomas fel argraffwyr posibl. Argraffodd Evan Powell Casgliad o hymnau i Rhys yn 1757. Nid oedd yn argraffydd da a gallai fod wedi cynhyrchu'r gyfrol dan sylw, er na welais i deip o'r math a ddefnyddir yma yn un o'i gyn- hyrchion. Er i Rhys Thomas wella llawer fel argraffydd gyda threigl amser, yn ei ddyddiau cynnar nid oedd ei dechneg o safon uchel. Argraffodd Casgliad o hymnau i Morgan Rhys yn 1760, a Marwnad. Gruffydd Jones yn 1761, ac fe fyddai yn gyfleus o agos at Rhys pan weithiai yn Llanymddyfri. Fodd bynnag, ni ellir cys- ylltu ag ef y math o deip a geir yn y gyfrol hon, na'r dyfr-farc a welir yn y papur a ddefnyddir ynddi. Gwelir, felly, mai amhosibl ar hyn o bryd ydyw dweud yn ben- dant pwy a argraffodd y gyfrol. Rhaid bodloni ar awgrymiadau. Hwyrach fod yna gopi cyHawn yn gorwedd yn rhywle gyda dalen- deitl a rydd ateb pendant i'n cwestiwn. Dymunaf ddiolch i Mr. G. Milwyn Griffiths am gyfieithu'r nodyn hwn o'r Saesneg. Aberystwyth. Wrth fyfyrio ar dy aberth, Wrth dy ddilyn, addfwyn Oen; Gwrando dy riddfannau trosom, Cofio'r bicell, cofio'r boen: Ti a'n prynaist oll mor ddrud. O dan wae drycinoedd daear Caeth i bryder wyf a braw; Iesu, gwna fi'n dyst fth gariad, Paid â'm gollwng byth o'th law. Pam yr ofnaf ? Cynnal fi wrth gario'r groes. O'i blinderau tywys Seion I'th dangnefedd dan yr iau; Nac anghofia'i gwywedigion, Anadl, tyred i'n bywhau. Ebrill 1972. Ffrwyth o lafur Calfari. Whxiam Mobws. Eiluned REES. CARIAD Y GROES Trwy dy gariad O am weled