gyda geiriau Cymraeg yn y Llawlyfr Moliant Newydd. Yn 1919 daeth i Gymru fel Athro yn Aberystwyth ac yn Gyfarwyddwr y Cyngor Cerdd Cenedlaethol. Nid oedd Cymru'n ddieithr iddo; 'r oedd wedi beirniadu lawer tro yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chlywais Mr. Emlyn Davies, y Rhos-a oedd yn y coleg yr un adeg ag ef-yn dweud fod Syr Walford yn ei holi'n fynych am Gymru a'i cherddoriaeth. Edrychai ar ei swydd yng Nghymru fel cenhadaeth, a thaflodd ei hun i'r gwaith gyda brwdfrydedd mawr. Ei nod oedd cael y bobl i fwynhau cerddoriaeth dda a chael pob plentyn i fedru darllen cerddoriaeth. Tra yng Nghymru bu'n gyfrifol am lawer o gasgliadau, a dyma'r prif rai: Detholiadau dwyieithog ar gyfer Cymanfaoedd yr Eglwys yng Nghymru; A Students' Hymnal (1924) gydag adran Gymraeg; Welsh Festival Music (1924, ar gyfer Arddangosfa Wembley),-ail ran hwn yn cynnwys "Enghreifftiau o Geinciau a Pheroriaeth Gymreig er amser y Tuduriaid a Darnau Cynharach," &c. Y mae ynddo, yn naturiol, emyn-donau Cymreig, ac un darn diddorol ynddo yw gosodiad cerddorol o'r emyn Cym- raeg cynharaf "Gogoneddawc Arglwydd" o Lyfr Du Caerfyrddin. Llwyddodd yn eithriadol i sylweddoli acen a rhiddm yr iaith Gym- raeg. Yn olaf, Hymns of Western Europe, gyda Syr Henry Hadow a Syr Richard Terry yn gydolygwyr. Yn hwn ceir emyn-donau o wahanol wledydd yn Ewrop ac yn eu plith 40 o rai Cymreig, cyfar- taledd go dda. 'R oedd Syr Walford yn edmygydd mawr o hen emyn-donau Cymru; clywais ef yn dweud un tro mewn dosbarth: "Ireland has the finest folksongs, Wales the finest hymn tunes." 'R oedd yn gynganeddwr gwir fawr, ac y mae ei gynghanedd i donau fel Hyfrydol, Braint a Llanfair yn wych ac yn hollol gynulleidfaol. Bu'n gyfrifol am gynnal Gwyliau Cerddorol yn Aberystwyth, Y Drenewydd ac Aberpennar. 'R oedd ganddo ddawn arbennig i hyfforddi côr. Anelai bob amser at ddau beth, sef coethder a gwres yn y canu, — yr olaf, o bosibl, i'w briodoli i'w waed Cymreig. Penygroes HAYDN JONES # 3. Mr. Garfield H. Hughes, Aberystwyth. Bu farw Mr. Garfìeld Hughes ar ôl ein cyfarfod blynyddol diwethaf. Brodor o'r Fforest, gerllaw Pontarddulais, ydoedd, mab y diweddar Mr. a Mrs. John Hughes. Methodist Wesleaidd ydoedd o ran ei ymlyniad crefydd- ol. Yr oedd yn aelod o staff yr Adran Gymraeg o Goleg y Brif- ysgol, Aberystwyth, ers blynyddoedd lawer, a chyfrannodd yn helaeth ar faterion yn ymwneud â llenyddiaeth Gymraeg. Yr oedd