NODIADAU 1. "Mawl yr Ifanc": Gair o Eglurhad. Bu Mr. Aneurin Talfan Davies yn hael ei air i Mawl yr Ifanc yn y Bwletin diwethaf. Goddefer gair o eglurhad ar brinder emynau Pantycelyn a Morgan Rhys, a charolau Cymraeg gwreiddiol. Yn y Rhagair dywedir: "Awgrymwn gyd-ddefnyddio Mawl yr Ifanc â'r Lìawlyfr Moliant Newydd Nid oeddem yn dymuno dyblygu yn ddiangen. Mae gan Bantycelyn 152 o emynau yn y Llawlyfr Moliant Newydd (dylesid eu rhestru, a hyderwn y digwydd hynny yn yr argraffiad nesaf), ac y mae 22 gan Morgan Rhys. Ceir nifer o garolau ac 'emynau' Nadolig Cymraeg: "O! dawel ddinas Bethlehem" Ben Davies, "O! deued pob Cristion" (An.), "Deffrown, deffrown" Robert Davies (Bardd Nantglyn) ac An., "Yn nhawel wlad Jiwdea dlos" Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), "O! gariad mawr a rhyfedd" E. Cefni Jones; "Draw yn nhawelwch Bethlehem dref" John Hughes, Dolgellau; "Daeth Iesu o'i gariad" Watcyn Wyn; "Engyl nef sy'n canu'n un" Dyfnallt; a "Pa fwyn beroriaeth" John Roberts (leuan Gwyllt). Mae "Peraidd ganodd sêr y bore" Morgan Rhys, a nifer o emynau'r Ymgnawdoliad a'r Nadolig yn yr adran gyffredinol yn y Lìawlyfr Moliant Newydd. Da fu nodi absenoldeb "Ar gyfer heddiw'r bore" Eos Iâl, ac "Awn i Fethlehem" Rhys Pritchard. Hwyrach y gellir eu cynnwys hwy, ac unrhyw garol draddodiadol Gymraeg arall, mewn argraffiad arall, i gyfoethogi adran y rhoddwyd cryn sylw iddi. D. EIRWYN MORGAN 2. Syr Walford Davies (1869-1941). Ganwyd ef yng Nghroes- oswallt. Nid oedd ei rieni yn Gymry Cymraeg, ond fel llawer o drigolion y dref yr oeddent o dras Cymreig, ac ymfalchïai yntau yn hyn. 'R oedd ei dad yn arweinydd y gân yn y Capel Ymneill- tuol, ond pan oedd yn 13eg cafodd y mab ei dderbyn i gôr Eglwys St. George's, Windsor, a throi felly yn eglwyswr. Bu'n organydd cynorthwyol i Syr Walter Parratt yn yr un eglwys. Wedi astudio yn y Coleg Brenhinol bu'n organydd mewn tair o wahanol eglwysi cyn ei benodi i'r swydd bwysig o organydd y Temple Church. O dan ei hyfforddiant daeth côr yr eglwys hon yn enwog am ei ganu, o bosibl y canu eglwysig gorau yn Lloegr. Yn 1904 perfformiwyd ei gantawd Everyman yn Leeds, gwaith a enillodd iddo le fel un o gyfansoddwyr blaenaf y cyfnod yn Lloegr. Cyfansoddodd nifer fawr o ddarnau i leisiau ac i offer- ynau ac yn eu plith lawer o gerddoriaeth at wasanaeth yr Eglwys. Pleser yw gweld un o'r rhain, y darn swynol God be in my Head