Tua'r flwyddyn 1792 cyhoeddodd John Thomas lyfryn dan y teitl Llythyr o Annerch at Hen Bobl a Chanol Oedran, &c. sy'n cynnwys "Rhai Hymnau Ysprydol, O waith yr un Awdwr," deg ohonynt. Ni welais y cyntaf, emyn hir o 26ain o benillion ar y testun "Bwrw dy faich ar yr Arglwydd," mewn unrhyw gasgliad blaenorol; ond fe geir y lleill i gyd yn Caniadau Sion. Ni wn i am unrhyw gasgliad emynyddol arall o'r eiddo John Thomas, Rhaeadr Gwy. Y mae rhai yn priodoli iddo waith John Thomas, Manafon, sir Drefaldwyn, yn gamsyniol, wrth gwrs. Bernir hefyd gan rai mai ef biau'r llyfryn Pererindod: sef Hanes Y Parchedig Mr. J. Hart Gan J. Thomas (Caerlleon Ioan Harfie, tros J. Thomas), 1767, sy'n cynnwys pump o emynau. Nid oes un o'r rhain yn Caniadau Sion, fel y buasid yn disgwyl petai John Thomas, Rhaeadr, a'u cyfansoddodd. G.M.R. "Argraphwyd gan I. Daniel, yn Hool y Farchnad," Caerfyrddin. Yn ôl Ifano Jones, Printing and Printers in Wales, &c, t. 134, symudodd Daniel i Heof y Farchnad rywbryd yn 1792. Cyfeirir ar d. 9 at farw>v>iaeth yr Arglwyddes Huntingdon; bu hi farw yn 1791. Cof gennyf lawer blwyddyn yn ôl ddarllen casgliad Samuel Roberts o ddwy fìl o emynau. Teimlwn ei fod yn gasgliad canmoladwy. Ond pan ail-ddarllenais y gyfrol rai blynyddoedd wedi hynny, synnais mor ychydig o'r emynau hynny a ddefnyddir heddiw. Hynny yw, ni lwyddasant i oroesi canrif. Mae Amser yn feirniad llym iawn, ac yn malu llawer o bethau heblaw Melin Trefin. Gellir bod yn bur sicr, felly, fod emyn sydd wedi dal ei dir dros Hynyddoedd lawer yn cynnwys rhywbeth o wir werth. Mae emyn o'r fath hefyd yn medru llamu dros ffiniau enwadol. Gwaith diddorol ydyw cyfrif yr emynau Cymraeg a gafodd Ie mewn mwy nag un emyniadur a'r rhai eraill nad oes sôn amdanynt ond mewn un casgliad enwadol.— T. H. Lewis, yn Y Genhinen, Gaeaf 1969-70.