Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CANIADAU SION JOHN THOMAS, RHAEADR GWY PRIN y mae angen rhoi crynodeb o hanes bywyd John Thomas, Rhaeadr Gwy, yma. Ysgrifennodd hunangofiant hynod, a chyhoedd- wyd hwnnw dan y teitl Rhad Ras, &c. (Abertawe, J. Voss), yn 1810; llyfr a adargraffwyd yn 1949 gan Wasg Prifysgol Cymru dan olyg- iaeth J. Dyfnallt Owen. Gweler hefyd Garfield Hughes yn Journal Welsh Bibliographical Society, viii, tt. 148-51; John Thickens, Emynau au Hawduriaid (arg. newydd 1961), tt. 114-7; a'r nodyn byr yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y M.C., lii, 32. Amcan hyn o ysgrif yw nodi'r gyfres o gasgliadau emynyddol a gyhoeddodd John Thomas rhwng 1758 a 1788 dan y teitl cyffred- inol Caniadau Sion, a chyfeirio wedyn at emynau eraill a gyhoedd- wyd gan J.T. ar ôl 1788. Wele'r rhannau: 1. Caniadau Seion. Sef Casgliad o Hymnau ac Odlau Ysprydol gan mwyaf o Waith John Thomas, at yr hyn y chwanegwyd Gweledigaeth wedi ei gosod ar Fesur Cerdd, Argraphwyd yn 1758. Codwyd yr uchod o restr y diweddar Bob Owen a ymddangosodd yn Y Goleuad, 29 Mai 1935. Er chwilio Uawer ni welais gopi erioed o'r rhan gyntaf. Fe gynnwys y casgliad, y mae'n debyg, y 19eg emyn cyntaf yn Caniadau Sion 1788. 2. Yr ail ran o Ganiadau Sion; Sef, Casgliad o Hymnau Ac Odlau Ysprydol. Gan John Thomas. Argraphwyd yng Nghaerfyrddin gan Evan Powel, yn y Flwyddyn 1759. Tt. 36; 25 o emynau a nodir yn hwn, ond mewn gwirionedd y mae yma 26 neu 27 o emynau. 3. Y Drydydd Ran o Ganiadau Sion; neu Hymnau ac Odlau Ysprydol. Gan John Thomas. Bristol: Argraphwyd gan E. Farley. 1762. Pris Tair Ceinjog. [t. 36] 4. Y Bedwerydd Ran o Ganiadau Sion: neu Hymnau ac Odlau Ysprydol gan John Thomas. At yr hyn y chwaneg- wyd, Can i Ienctyd, ar ddymuniad rhai Pobl Ivaingc, gan yr un Awdwr. Bristol: Argraphwyd gan E. Farley. 1764. Prîs 4d. [t. 60] 5. Y bummed ran o Ganiadau Sion; neu Hymnau ac Odlau Ysprydol. Gan John Thomas, Gweinidog yr Efengyl