eithr i fynwent yr hen eglwys gerllaw. Nid ar noson ddrycinog y digwyddodd chwaith (chwedl Morris Davies), ond ar noson o ben- llanw "Saif hen eglwys Sant Teilo ar fymryn o godiad tir, tua phum- llath o'r afon [Llwchwr], ac ar ei chyfyl, tua hanner canllath i ffwrdd, y saif [ffermdy] Llandeilo Fach [cartref yr emynydd]. Os digwydd i benllanw ddod, a'r afon eisoes mewn llif, bydd y morfa, o Bontarddulais i Gasllwchwr, yn un llyn anferth Wedi cyrraedd Llandeilo Fach ar hyd y lôn gul o'r Waun-gron, amhosibl fyddai i'r emynydd fynd gam ymhellach, oddieithr o'r t� i'r eglwys ar hyd y codiad tir. Ar y noson honno byddai'n rhaid iddo fynd i un o ddau le, naill ai i gaeau Castell Du, y tu ôl i Landeilo Fach, neu i'r eglwys. "Yn ôl y stori a glywais ei hadrodd yn ddieithriad pan oeddwn yn fachgen ym Mhontarddulais, yno y canodd ei bennill enwog, a'r dwr yn llyfu waliau'r fynwent o'i ddeutu. Sefyllfa sy'n gwbl gydnaws â?r pennill." Y gwir yw, mai ychydig iawn sy'n newydd yn The Cambridge Hymnal, er bod ynddo dipyn o le i benillion na chyfrifid gynt yn emynau. A chwestiwn digon anodd ei ateb yw 'Beth yw natur a nodweddion emyn?' un y bu cryn ddadlau a:rno o dro i dro. Fel Methodist, ni allaf lai na chyfeirio at ym- adrodd John Wesley yn disgrilio cynnwys ei gasgliad emynau enwog ef yn 1779 fel 'scriptural Christianity,' a rhaid i wir emyn, y mae'n siwr, gyfuno gwirionedd Cristnogol yr ysgrythur a phrofiad y Cristion o'r gwirionedd hwnnw. Cofiaf ddarllen beirniadaeth ddeifiol ar emynau'r Songs of Praise (1926) lle dangoswyd bod llawer o emynwyr yn cael eu tarfu gan eiriau'r Testament Newydd, y geiriau sy'n 'llymach na chleddyf dau-finiog.' Dyfyn- nodd Dr. Cyril Northcott yn ddiweddar rannau o emyn J. G. Whittier When on my day of life the night is falling, And in the winds, from unsunned spaces blown, I hear far voices out of darkness calling My feet to paths unknown, gan awgrymu ei fod yn ddyrchafol, ac yn llenyddol fawr, ond nad ydyw'n Gristnogol. Gallaf feddwl am ambell emyn Cymraeg y gellid ei fesur wrth yr un ílinyn mesur, a gorfod petruso'n hir amdano. — Garfield H. Hughes, Trafodion Cymdeithas Hanes y Bedyddwyr, 1968.