Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMDEITHAS EMYNAU I GYMRU* Gan Y GOLYGYDD Diolchaf i'r Paorch. D. Eirwyn Morgan am fy ngwahodd i annerch y cyfarfod hwn, a alwyd i geisio sefydlu Cymdeithas Emynau yng Nghymru. Y mae dau beth yn gyffredin i ni ein dau, sef ein bod wedi ein magu yn yr un ardal yn Sir Gâr, lle siglwyd crud yr emyn Cymraeg; a bod gennym ddiddordeb dwfn mewn emynyddiaeth. Mi garwn agor y drafodaeth heno â honiad. Y mae cynhysgaeth emynyddol cenedl y Cymry mor gyfoethog â'r eiddo'r un genedl Gristnogol arall; mewn rhai elfennau, efallai, y mae'n rhagorach. Nid oes raid inni gywilyddio dim, nac ymddiheuro chwaith i'r Sais a'r Ffrancwr a'r Almaenwr, nac i neb arall, ynglŷn â disgleirdeb ein traddodiad emynyddol. Y mae ein hemynau, at ei gilydd, yn drysor nid yn.unig o ran eu gwerth defosiynol in heglwysi, ond felllenyddiaeth o'r radd flaenaf. Fe ddaeth yr amser, mi gredaf, i ffurfio cymdeithas i astudio ac i noddi'r emyn Cymraeg. Nid dymar tro cyntaf i'r awydd am Gymdeithas Emynau gael sylw ar faes yr Eisteddfod. Yn y flwyddyn 1948, yn Eisteddfod Pen-y-bont ar Ogwr, anerchodd Elfed y Gymdeithas Lyfryddol ar Emynwyr Bro Morgannwg." Ar ddiwedd ei anerchiad crybwyll- odd iddo fod yn bresennol, ryw fis cyn hynny, mewn cyfarfod o'r Hymn Society of Great Britain and Ireland," lle buwyd yn trafod y priodoldeb o gael argraffiad newydd, diwygiedig, o waith gorch- estol John Julian, A Dictionary of Hymnology. Gofynnodd Elfed a fyddai n bosibl i sefydlu cymdeithas debyg yng Nghymru i astudio emynyddiaeth y genedl. Neu, efallai, a ellid cyHawni'r gwaith hwnnw gan gangen o'r Gymdeithas Lyfryddol? Y mae'n llawn bryd i ni gael Cymdeithas Gymreig," meddai Elfed, "yn uno'r holl enwadau. Awrgymwn fod i hon, ymhlith pethau eraill, geisio penderfynu ar un cyfieithiad o iaith arall yn gyffredin i'r gwahanol enwadau. Yr un modd, lle teimlir ei bod yn rhaid newid y testun, newidier i'r un ffurf ym mhob casgliad. Er hynny, gorau po leiaf o newid a wneir." Daw geiriau Robert Anerchiad a draddodwyd yng Nghapel Salim, Y Bala, 10 Awst, 1907, yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.