Llyfrau Y NOS, gan Idris Roberts. Llyírau'r Dryw. 3/6. Y mae'r stori antur, y stori ysbryd, a'r nofel dditectif ymhlith y mathau mwyaf poblogaidd u lenyddiaeth heddiw, yn arbennig ymhlitli plant. Fel cefndir i lenyddiaeth yn gyffredinol y mae llyfrau felly yn werthfawr iawn oherwydd eu bod yn meithrin mswn pobl icuainc yr awydd i ddarllen, a dar- llen Cymraeg yn arbcnnig. Yn ddiddadl, os am gael plant i ddarllen llen- yddiaeth Gymraeg pan fyddant yn hŷn, rhaid darpar ar eu cyfer straeon sydd ag apêl arbennig at en chwaeth pan ydynt yn blant ysgol. Cyhoeddwyd swm sylweddol o storïau antur a storiau ditectif yn Gymraeg yn ystod y chwarter canrif diwethaf, ac i'r gangen hon o lenyddiaeth y cyfrannodd Mr. Idris Roberts yn ei lyfr yng nghyfres Llyfran'r Dryw. Stori gyffrous ydyw Y Nos. Cymerir chwarelwr o Gymro íel prif gymer- iad, Dafydd Puw, chwarelwr a fîoes i Lundain am ei fod wedi hen ddiüasu ar ci fywyd rhcolaidd yn y chwarel. Yn y brifddinas fe'i gorfodir i gynorth- wyo mewn cynllun dirgel a geisiai ddymchwel teyrnasiad gormeswyr y werin. Tan gyfaredd arweinydd y cynllun hwn y mae ef a'i gyfeillion newydd yn llofruddio nifer fawr o wŷr bonheddig ariannog. Llwyddodd y cynllun yn odidog am ysbaid. Ond un nos pan oedd Dafydd Puw wcdi mynd am dro yn y ddinas darganfu'r heddlu nyth yr arweinwyr a dacth y cynllun mawr i ben. Cafodd y Cymro waith mewn ffatri liwio brethynnau, a llety gyda phen weithiwr y ffatri honno. Ond nid oedd yn hapus,—ac eithrio pan ydoedd yng nghwmni merch ifanc dlos o Drefaldwyn a weithiai yn Llundain, ac y daethai ef i'w hadnabod yn dda. Gyda hi câi wynfvd a gwir hapusrwydd. Ac eto daliai i frwydro â'r gorffennol nes ei fod yn y diwedd ar fin troi'n wallgof Un prynhawn wrth ei waith teimlai fflamau coclcerthi'r ffatri yn gyrru nod- wyddau trwy ei holl gorff. "Acth y bvd yn goch" A'r prynhawn hwnnw y daeth Dafydd Puw ato ei hun yn yr ysbyty am y tro cyntaf ers chwe mis, er pan ddaeth y graig i lawr yn y chwarel ac anafu ei ben. Ni fu yn Llundain erioed ac eithrio yn ei ddychymyg ef ei hun. Ychydig a adawai'r stori hon o'u dwylo cyn gweld ei diwcdd. Ac y mte'r diwedd yn rhyfedd o effeithiol, er y defnyddiwyd y math hwn o ddiwedd- glo lawer tro o'r blaen. Y rhan orau yn y llyfr i gyd yw 'r diwcddglo hwn. Dadlennir yn hamddenol, ac eto'n gynnil, mai yn yr ysbyty y bu Dafydd Puw ar hyd yr amser ac nid yn Llundain yn ymladd achos y werin, yn llof- ruddic gwyr bonheddig y brifddinas, ac yn edmygu ac addoli Cymraes lyg- atlas o Sir Drefaldwyn. Yn sicr mae gan yr awdur y ddawn i ddweud stori ac i ennyn diddordeb y darllenydd. Un pcth efallai a allai fod wedi ei ych- wanegu at antur y stori hon fyddai adrodd tipyn mwy am helyntion Daf- ydd Puw fel llofrudd mentrus ar draul ei helynrion fel carwr dof a diniwed. Y mae'r iaith yn fyw a naturiol. Hefyd ar y cyfan y mae yn raenus iawn. Prin yw'r brychau, megis "dau lygaid" (tud. 12 a 23), a "marchog" td. 36 am "marchogaeth." Teimlir er hynny nad yw'r awdur bob amser yn sicr ym mha Ie y dylid defnyddio'r hirnod yn Gymraeg. Yn wir, y mae yn anghyson ag ef ei hun yn ci ddcfnydd ohono weithiau. Y mae'n llithro ar dro hefyd gyda'i dreigladau, yn arbennig pan ddaw'r sain rh ar ddechrau gair,—