"Trist Ydyw'r Cnawd,Och Fi Rhwymedig wyf gan fy llygaid. Cannwyll y corff yw'r llygad rhwymedig wyf gan fy nghorff. Mae fy nghorff ymhlith cyrff rhwymedig wyf ganddynt. Mae f'ysbryd ymhlith ysbrydion carcharwyd fi gan gysgodion. Rhwymedig wyf gan y boen ym mysedd fy nhraed, gan esgidiau fy nhraed, gan ddillad fy noethni. Ni chaniateir y fath beth, nac yn ysbrydol nac yn gorfforol. Digon o hwnna o flaen Duw. Nis caniateir gan ddyn. Rhwymedig wyf gan ddyn a chan Dduw gan y diafol sydd ynof, gan Fab Duw. Mae Efe yn waeth na diafol. Diflas, diflas, llawen, hapus, poen a rhagrith, hapus, hapus dyrfa. Diolch am ddim, myn brain. Diolch am Ang3u, y realiti haniaerhol. Diolch amdanat, ti'r gwyliwr diriaethol, amyneddgar ar ddiwedd y daith. Carcharor wyf. Hiraethaf yn f'ymrysgaroedd am ryddhad. Ni fyddaf byth yn rhydd. Ni chaniateir fy nghorff i mi, nac edrych arnaf. Ni chaniateir f'ysbryd i mi, na chan fy ngwlad, na chan Dduw. Camaf trwy'r drych, a gwelaf gath. Mae hi'n ysu esgyrn pysgod, rhag ofn y pysgod, ac yn cyfogi, yn bwyta, yn cyfogi, yn bwyta, ac yn y blaen. Cas gennyf fywyd, ac ofnaf y gwynfyd. Caerdydd. E. G. Miliwabd.