Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU ERAILL EFRYDIAU ATHRONYDDOL 1948. Cyfrol .XI. Golygwyd dros Adran Athronyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru gan R. I. Aaron. Gwasg Prifysgol Cymru. Tt. 60. 2/6. Cynnwys :Y Ddirfodaeth Gyfoes yn Ffrainc, Marcel a Sartre, gan D. Myrddin Lloyd: Rhag- dybiau, gan David Phillips: Gwybod a Dat- guddiad, gan (i) J. R. Jones, (ii) Pennar Davies: Nodyn-Cynhadledd Harlech 1948, gan Hywel D. Lewis. THE WELSH ANVIL— YR EINION. Golyg- ydd: Alwyn D. Rees. Cyhoeddwyd dros Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru gan y Silurian Books, Llandebie. Cyfrol 1. Ebrill 1949. 3/6 (3/- i danysgrifwyr). Dywed y Golygydd mai amcan 'Yr Einion' yw hybu trafodaeth ymhlith hen fyfyrwyr Prif- ysgol Cymru ac i roddi iddynt foddion i fyn- egi'u syniadau ar faterion deallol a chymdcith- asol. Cynnwys y gyfrol hon bedair o ysgrifau yn Gymraeg ac wyth yn Saesneg gan ysgrifen- wyr adnabyddus. HUNANGOFIANT RHYS LEWIS, Gweinidog Bethel, gan Daniel Owen. Argraffiad newydd wedi'i olygu gan yr Athro Thomas Parry, Bangor. Caerdydd: Hughes a'i Fab. 1948. Tt. 341. 8/6. Y mae'r argraffiad hwn "wedi ei ddiwygio," a diweddarwyd yr orgraff yn unol â safonau cyfoes. MATHONWY HUGHES Clerc tan y Llywodraeth yn gofalu am Swyddfa Adran y Weinyddiaeth Amaethyddol a'r Pwyllgor Sir, yn Wrecsam. Genedigol o Ddyffryn Nantlle, Arfon, a nai i'r diweddar Silyn. D. EIRWYN MORGAN Gweindog gyda'r Bedyddwyr ym Mancffosfelen, Pontyberem. Golygydd "Seren Gomer," a dar- par ymgeisydd y Blaid Genedlaethol yn Llanelli. A. JENKINS-JONES Myfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. HARDY NAYLOR Gŵr'o Sais a ddysgodd Gymraeg ac a'i sefydlodd ei hun yn Llangwm, yn nwyrain Meirionnydd, lle y mae'n amaethu. BOBI JONES Myfyriwr yn adran y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. AMGUEDDFEYDD GWERIN (Folk Mus- eums) gan Iorwerth C. Peate. Gwasg Prifys- gol Cymru, 1948. Tt. 63. 2/6. Cyfrol ddwyieithog yn ymdrin â phwrpas am- gueddfa a'r syniad o amgueddfa werin a hanes ei datblygiad, gan roddi sylw arbennig i'r Am- gueddfa Werin Gymreig yn Sain Ffagan. DIRECT WELSH. The Coedybrain Course (Cwrs Coedybrain), by W. D. Thomas, B.A. Part 2. Cardiff: The Castle Book Co. Pp. 118. 2/6. Fe'i bwriadwyd, megis Part 1, at iws ath- rawon ,ac yn fwyaf arbennig ar gyfer dysgu'r iaith i ddisgyblion nad yw'r Gymraeg yn 'famiaith' iddynt. DYDD YR ARGLWYDD. Cyhoeddwyd gan Gyngor Cenedlaethol Cymru o Gymdeithas Cadwraeth Dydd yr Arglwydd. Dinbych: Gwasg Gee. 1948. Tt. 103. 1/6. Cynnwys anerchiadau, ysgrifau a cherddi gan gynrychiolwyr gwahanol ganghennau'r Eg- lwys Gristnogol ar bwnc cysegredigrwydd y Sul. Rhagair gan y Parch. R. T. Gregory. EMYNAU'R GAIR, gan R. R. Williams.. Lerpwl: Gwasg y Brython. Tt. 63. 1948. 3/6. Cyfieithiadau i'r Gymraeg o "emynau fel y'u ceir yn Llyfr Hymnaù Eglwys Bresbyteraidd yr Unol Daleithiau, ag eithrio un neu ddau." CYFLWYNO