yw ei gwerthfawrogiad o farddoniaeth yn mynd yn ddyfnach na thelynegion y jazz- band a'r limeric boblogaidd? A ddylai geisio eu cyrraedd, neu a ddylai gyfadd- awdu â hwy mewn unrhyw fodd? A ddylai ddisgyn rhyw step neu ddwy megis yn y gobaith o'u dal, hyd yn oed yn an- ymwybodol iddynt eu hunain? Gadewch inni ystyried am eiliad rai o'r achosion pam y mae apêl celfyddyd hedd- iw, — a'i chymryd mewn ystyr eang yn awr, — pam y mae'n ymddangos nad oes iddi ddiben na chysylltiad â bywyd y mwyafrif o bobl. Mae'n wir, wrth gwrs, fod rhai ffurfiau ar fynegiant crefftus, fel y nofel iboblogaidd a'r ffiim, yn cylchred- eg yn ddigon llwyddiannus. Ond fe dal- ai inni gofio fod lletach bwlch heddiw rhwng y ffurfiau poblogaidd Ir/n a'r rhai eraill mwy datblygedig, nag a fu nemor eiioed. Yn Lloegr, er enghraifft, yr oedd bardd-ddramaydd cyfnod Elisabeth mewn cyswllt uniongyrchol â'i wranda- wyr, a'i farddoniaeth yn llythrennol yn mwynhau'r awyr iach. Hynny i gyd, wrth gwrs, cyn i'r ddrama fynd yn ddar- Iun a'i farddoniaeth fynd yn brint. Meddyliwch eto am yr effeithiau sy wedi dilyn mecaneiddio a safond bywyd ein hoes ni. Mae hynny siŵr o fod yn tueddu at unffurfiaeth ym meddwl ac ymddygiad pawo ohonom. A chan fod posibiliadau materol bywyd dyn wedi cynyddu cymaint yn ein hamser ni, y mae'r gofynion ar ein pwerau dychmygol a theimladol yn rhwym o ddioddef. Ac y mae'r nodweddion sy'n cyd-fynd â'r cyflwr mecanyddol hwn: dyna i chi un- donedd proses sy'n nodwedd mor am- Iwg mewn diwydiant; 'd oes gan y gweith- iwr bellach ddim diddordeb personol yn ei gynnyrch; dyna wedyn dyfiant yr un- edau mawríon, holl ruthr anorffen byw- yd a'r anhwylderau nerfol a meddyliol sy'n dilyn; y mae'r rhain i gyd yn ar- wyddion clir fod ansawdd a thempo byw- yd wedi newid yn enfawr. Ond efallai fod y rheswm pennaf yn gorwedd yn y trawsnewid a fu o'r hen drefn economaidd ac organig oedd a'i seiliau ar unedau bychain cymdeithasol fel y grwp a'r teulu,— o'r drefn yna at ffurfiau o lywodraeth mwy canolog. O ganlyniad i hynny y mae yna lai o ym- deimlad ac o ryddid cymundeb o bobtu rhwng yr artist a'i gyhoedd. Ac y mae'r cymundeb hwnnw yn gwbl angen- rheidiol tuag at lwyddiant eithaf ei gel- fyddyd. Y gwir amdani yw, yr ydym yn ceisio cadw i fyny â datblygiadau di- weddaraf byd y meddwl a phwyslais gwyddonol ein cyfnod nes bod ein pwer- au emosiynol a dychmygol yn methu ffeindio posibilrwydd normal. Canlyniad hyn i gyd yw fod adwaith y bardd i fywyd heddiw yn un cym- hleth. Fe'i gyrrir yn fwyfwy i fyd mewn- ol ei deimladau ef ei hun a chais yno roi terfyn ar bethau. A chofiwn, gan mai gŵr o gyneddfau eithriadol fyw ydyw, ei fod yn synhwyro'r gwrthdarawiad hwn ynddo'i hun o hyd. Ar un llaw fe'i cawn yn ymgodymu â 'i feddyliau preifat ac am eu mynegi yn ei iaith ei hun, iaith a ym- ddengys yn ddieithr ar yr olwg gyntaf; ac o'r ochr arall cawn ef yn ysu gan y dy- muniad yma o'i eiddo i greu'r gymdeithas ddelfrydol, cymdeithas lle bo'i lais yn llif- o'n ddirwystr rhyngddo ef a ninnau. Dyma'r rheswm hwyrach paham yr ym- ddengys ei waith yn annealladwy (ar yr wyneb, beth bynnag), i lawer o'i gyd- ddynion. Cymdeithas gymdogol, agos, — daear yn rhoi lIe a chyfle i'r ddawn bersonol, tir ffrwythlon i alluoedd y dychymyg a'r teimlad,— dyna gymdeithas ddelfrydol y bardd. Mae yna Ie felly heddiw i fardd- oniacth sy'n rhoi pwyslais ar ymdrech ac aberth dynion i ddiogelu'r gwerthoedd sy mewn rhyddid ac iawnder,­-barddon- iaeth sy'n ddehongliad o'n problemau ni heddiw ac yn fynegiant o'n gobeithion at yfory.