ar draethu'n gyflawn. Yn y cyfeiriad hwn y mae'r storiwr wedi syrthio'n fyr yn rhai o'r straeon hyn. Yn y stori gyntaf, "Y Rhyb- udd," cawn enghraifft o lacio gafael ar yr el- fen iasoer. Pan oedd Arthur wedi bod gyda Enid yn yr ystafell ddirgel a gweld corff dyn marw yno yn ei gwman, 'r oedd wedi ei syfr- danu. Ac eto, ar ôl dod allan o'r ystafell, 'r oedd yn ddigon hunan-feddiannol i ymresymu y byddai'n well cloi drws Enid rhag iddi ddod allan drachefn. Hefyd nid oes pwynt o gwbl mewn cloi'r drws yng nghynllun y stori, ac felly afraid ei wthio i mewn ar funud mor fyw yn ei datblygiad. Ceir yr un peth yn y stori "Breuddwyd." 'R oedd R. J. Forrest wedi di- huno'n dychymyg ac yn barod i adrodd ei stori, ond y funud honno å'r capten i fyny i setlo cwrs y llong. Mae'n wir fod yn rhaid gofalu am "gwrs y llong" mewn byd ffaith, ond pan nad oes cysylltiad rhyngddo a chyn- llun y stori, dylid ei hepgor, yn arbennig pan fyddo'n arafu'r cynllun hwnnw. Yn "Ffordd- olion" eto, ceir un paragraft ar ddechrau'r stori yn sôn am y tywydd ac am drafnidiaeth yn gyffredinol, sydd yn hollol ddibwynt yng nghynllun y stori. Mae llacio gafael am funud ar y dal anadl yn bradychu'r gyfrinach mai stori sydd yma ac nid digwyddiad. Nid yn unig ynghanol rhai o'r straeon yma y ceir llacrwydd gwead, ond hefyd weithiau yn y rhagymadrodd ac yn y diweddglo. Mae'r awdur yn llawer rhy hoff o ymadroddi yn hamddenol ac ystyried mai storïau cyffrous sydd ganddo. Ceir y bai hwn yn amlwg iawn yn y stori "Dial y Beddau." Nid oes angen ffug-esbonio'r digwyddiadau ar y dechrau mewn brawddegau gwamal fel hyn: "Y mae'n debyg bod esboniad boddhaol ar yr amgylch- Ysgol Ramadeg, Caerfyrddin. HE WHO HAD EATEN OF THE EAGLE. Short Stories by William Glynne-Jones. William MacLellan, Glasgow, 1948. Tt. 161. 7/6. Y stori orau yn y gyfrol hon yw'r stori a roes ei theitl iddi, a gallai honno fod yn well. Stori ydyw am "Professor Moses Meudwy," ffug-ffis- igwr sydd yn elwa ar anghenion y tlodion. Ei gosb yw derbyn yr haint y talwyd iddo am ei wella. Cynrychiolir y wir iechydwriaeth gan "Shadrach the Hermit', disgynnydd yn y seithfed genhedlaeth i "he who has eaten of iadau trychinebus Ni chynigiaf i fy hun yr un. Fe fyn rhai efallai Haera eraill ysgatiydd Prun bynnag, bernwch chwi fel y mynnoch Yn ôl fy marn i brawddeg agor- iadol wael i stori arswyd yw, "Truth is strang- er than fiction." Tybiodd yr awdur y byddai brawddeg o'r fath yn gwneud y stori yn fwy argyhoeddiadol am ei bod yn "stori wir." Eithr nid dyna'r argraff a gafodd arnaf i, o leiaf. Os yw stori 'n dda, bydd yn ymddangos yn wir heb gael tystiolaeth yr awdur o'i i phlaid. Mae rhoi brawddeg fel hon ar y cychwyn yn awgrymu bod y stori ynddi ei hun yn gloff, a bod angen ffon fagl arni. Yn "Y Breuddwyd" a "Fforddolion" eto, araf iawn yw'r awdur yn dod at y stori fel y cyfryw. Mae diweddglo rhai o'r straeon yn ddiffygiol am fod yr awdur yn dal i ysgrifennu ar ôl i'r elfen gyffrous ymgyrraedd â'i huchafbwynt, ac y mae hyn yn amharu mwy ar y stori na hyd yn oed ragymadrodd di-angen. Dywedais ar y cychwyn mai maes cymharol newydd yw maes y stori arswyd yng Nghym- ru, ac felly y mae'n rhaid gwneud rhyw gym- aint o arbrofi cyn y gellir cael cynhaeaf aedd- fed allan ohono. Ac nid peth hawdd yw codi arswyd ar y genhedlaeth hon: teifl gwyddon- iaeth fflachiadau o oleuni i mewn i'r mannau tywyll lle'r arferai hen ysbrydion drigo; mae tyfiant anffyddiaeth a materoldeb yn caledu croen pobl; mae rheswm yn dod i lywod- raethu fwy-fwy ar y dychymyg a'r teimlad. O gofio hyn oll, llwyddodd J. E. Williams yn dda iawn yn y straeon yma. Y mae'n gallu cyffroi a chreu arswyd; yr hyn sydd yn rhaid iddo ei wneud eto yw cynilo llawer iawn ar ei ddefnydd, a hepgor y paragraffau sy'n andwyo yn hytrach na gwella ei waith. JENNIE HOWELLS. the eagle". Yr oedd posibiliadau mawr yn y thema hon, ond bu arddull a meddylfryd yr awdur yn rhy amrwd i'w sylweddoli'n gyf- lawn. Yn y storïau eraill nid yw'r deunydd mor addawol. Cnewyllyn pob stori bron yw rhyw ddigwyddiad neu sefyllfa annymunol ac weith- jau grotésg-hogyn yn cael braw wrth helpu