Mangor flynyddoedd yn ôl i gyd-weithio â Mr. J. R. Gabriel ar hanes y Rhyfel Cartref yng Nghymru. Ymdrîn Syr Frederick â gwahanol agweddau ar Hanes Cymru o Oes Dewi Sant i Oes David Davies, Llandinam, a chawn ffrwyth ei fyfyr- dod ar Ddewi ei hun, ar Gerallt Gymro, ar bolisi'r Tuduriaid tuag at Gymru, ar agwedd- au ar y Rhyfel Cartref yng Nghymru, ac ar y Chwyldro Diwydiannol yn y Deheudir; ceir hefyd ysgrif ddiddorol ar rieni Lucy Walter (mam Dug Mynwy) a hanoedd o Sir Benfro, hanner dwsin o fapiau clir a defnyddiol iawn, a phedwar Atodiad. Lleinw Sir Benfro ran go helaeth o'r llyfr, a hynny'n eithaf naturiol, o gofio mai brodor o'r sir honno yw'r awdur ei hun. Hawdd gweled mai cariad at fro mebyd a'i symbylodd i ymddiddori yn hanes Dewi Sant, Gerallt a Lucy Walter, a'r Rhyfel Car- tref yn Sir Benfro yw swm a sylwedd dwy bennod o'r tair a geir ar y mudiad hwnnw yma. 'Snapshots' o hanes Cymru, felly, a geir yn hytrach na 'panorama.' Hynny a ddis- gwylid, wrth gwrs, o'r pennawd, ond rhêd rhyw unoliaeth trwy'r cyfan, a chaiff y dar- llenydd gipolwg ddiddorol a buddiol iawn ar lawer o bethau o bwys yn hanes y genedi. Y mae'r cyfan yn darllen yn rhwydd dros ben. Nid oes yma ymgais at ymfflamychu yn hytrach, fel y gweddai i un a fu'n cyd-weithio â Syr John Lloyd, ceir ymdriniaeth olau, of- alus, bwyllog a hamddenol ar hyd y daith. Gall y darllenydd wahaniaethu mewn barn â'r awdur, eithr rhaid yw iddo gydnabod i'r awdur fynegi'i farn mewn iaith goeth, seml a chlir fel y grisial. Y MAE lle i wahaniaeth bam-a hynny, un- waith eto, yn eithaf naturiol, oblegid mater o farn bersonol ar nifer o ffeithiau yw hanes yn aml. Yn y bennod ar Gerallt, er enghraifft, efallai y tuedda'r awdur i or-bwysleisio arben- igrwydd y gwr arbennig hwnnw; nid efe, wedi'r cyfan, oedd unig "bersonoliaeth" yr Oesau Canol. Yn y pen arall, wedyn, — dyna'r bennod ar y newid diwydiannol yn Neheudir Cymru. Camp go fawr i ddyn meidrol yw trafod y newid hwnnw'n llawn mewn un ddarlith, ond llwyddodd y Prifathro i raddau pell iawn. Tu- edda, fodd bynnag, i ddibrisio'r diwydiannau hynny a oedd ar gynnydd yng Nghymru (Gog- ledd a De) cyn 1760 (ac yn enwedig felly y diwydiant copr), a phrin y credai'r darllenydd o ddarllen y bennod hon fod y diwydiant glo, yn ogystal â haearn, wedi cynyddú'n fawr rhwng 1790 a 1840. Eithr yn y bennod ar y Tuduriaid y mae mwyaf o Ie i ddadlau ag ef, a hynny'n naturiol ddigon hefyd. I ddechrau, o'r braidd nad yw'r pennawd yn gamarweiniol — "Tudor Folicy in Wales." Trafod yn fwyaf arbennig y Ddeddf Uno y mae'r awdur yma; pedwar ^anmlwyddiant y Ddeddf honno, yn wir, a fu'n achlysur y bennod yn y lle cyntaf. A buasai "Y Ddeddf Uno" yn bennawd fwy cymwys o lawer, oblegid hawdd y gall y dar- llenydd ddisgwyl ymdriniaeth lawnach nag a geir yma o holl ymwneud y Tuduriaid â Chymru, ac yn enwedig eu polisi crefyddol ac economaidd. O'r braidd hefyd nad yw'r awdur yn anghyson ar dd. 37-8; ar ôl dweud (t.37) bod polisi'r Tuduriaid tuag at Gymru wedi llwyr newid ymhen dwy flynedd wedi 1534, â ymlaen ar y tudalen nesaf i honni nad oedd y polisi hwnnw (sef gosod trefn ar y Mers) nam- yn y cam cyntaf tuag at bolisi cyflawn a chyn- hwysfawr. Annoeth hefyd, onid yn wir ang- hywir, yw tynnu'r llinell derfyn rhwng teyrn- garwch y Cymry i deuluoedd Iorc a Lancas- ter yn rhy fanwl, fel ar d. 30. Y gwir yw nad oedd gan y Cymry, fel y cyfryw, fawr i gyd o ddiddordeb yn y naill blaid na'r llall; gweled CYMRY a wnaeth y beirdd yn William Her- bert ac laspar Tudur, nid cynrychiolwyr Iorc a Lancaster, ac iddynt hwy nid oedd Rhyfel- oedd y Rhosynnau namyn parhâd o Fudiad Glyn Dwr, ymgais arall gan genedl orthrym- edig i ail-ennill ei hannibyniaeth. Dyna'r hen gwestiwn, drachefn, o gryf- der Pabyddiaeth yng Nghymru ar ddiwedd Oes Elisabeth. Cwestiwn dyrys, ond cwestiwn llai dyrys heddiw na chynt, diolch i lafur David Matthew ac eraill. Erbyn hyn, y mae'n anodd cytuno â'r awdur fod Cymru ymhlith rhannau mwyaf Pabyddol yr ynys yn 1603 (t. 46). Mae'n wir na ddangosodd y werin fawr o sêl Anglicanaidd y pryd hynny, eithr difaterwch a hyd yn oed paganiaeth, yn hytrach na rhyw Babyddiaeth gudd, oedd un o'i phrif nodwedd- ion hi; yr oedd John Penri'r Piwritan a Gruff- ydd Robert y Pabydd yn gytun ar hynyna. A rhaid priodoli teyrngarwch y werin i'r or-