tawel, mae'n wir, ond bywyd, serch hynny; yr anfarwoldeb nad yw o bal- mant. Fel y sgleiniai cwys newydd ar gwys, arogleuwn anadl fyw y gwanwyn cynnar. O rych a thalar codai 'sgrech y gwylain alltud ar drywydd y mil a mwy bywydau bach a breswyliai yn ngronyn- nau'r pridd ffres. Yn gyson, anfonai'r pedwar ceffyl anadl boeth o'u ffroenau agored i oedi eiliad yn awyr y prynhawn llonydd: anadl bywyd. Myfyriais. Chwemis eto, a byddai'r maes hwn yn gyforiog o rawn goludog. "Trwy chwŷs dy wyneb A allai fod godidocach camp? Bydd, bydd yn rhaid wrth y shetin ddrain a ffawydd sydd ar gloddiau Cae Delyn i "ddal y Uanw'n ôl," chwedl Wil Ifan ffansîol, y pryd hwnnw! Y mae'r wyth tyniedyd wedi gorff- en eu tasgau ac yn chwythu eu mwg glas i fyny, o'r dalar (nad ydyw i'w throi). Ac y mae'r gweddau yn "palu ami," chwedl hen frawd o amaethwr gerllaw. Dyma'r diwedd yn y golwg; un ceffyl i bob aradr yn awr, i droi'r rhimyn glas olaf— "y mwydyn,"—a'r gwys bridd. Rhaid i'r peiriannwr selocaf gydnabod mai'r ddeurwn ceffylau yw'r mwyaf cain a glân: gwaith gwastad a brawf nad ofer a fu'r ohwys sy'n streipiau duon ar wynebau Dai a Ianto, ac yn drochion ew- ynnog o dan goleri y ceffylau. Llygad- dynnir y dyrfa a fu, y rhan fwyaf o'r dydd, ar y dalar arall, gan waith y tyn- iedyddion. Onid oes tractor bob-yn-ail- le, 0 leiaf, yn y gymdogaeth? Cwysi llydain a dyfnder daearra gaeJMfel rheo|, gan wyr y peiriannau; eithr y mae am- bell un wedi ymgeisio'n deg i efelỳchu cwys gul, gynnil yr aradr fach. Rhyfedd mor garegog oedd caeau'r Garnedd Wen! Fel y sychai wyneb yr âr, gwelwn y miloedd cerrig mân yn gwynnu dros y cribau, fel petaent ro aíon. Daear lafur benigamp oedd hon. Addeýr- ais i mi fy hun y deuwn yn ôl, fis y cyn- haeaf, i fwynhau aeddfedrwydd y maes hwn ac i weld y rhagor a ddichon fod rhwng cnwd y grwn yma a chnwd y grwn acw. Eithr rhaid oedd adrefu, heliach; yr oedd y dyrfa'n dirwyn draw ac yn ym- wasgu, a gadael yr hen Gae Delyn i dang- nefedd yr hwyr: "hedd diddiwedd y ddaear." Trannoeth, yr oeddwn innau yn can- lyn fy "aradr goch," — neu, yn gywirach, hen aradr Penllwynrhaca. Yr oeddwn wedi bod mewn preimin am y tro cyntaf. Ceisiais unioni cilfachau ceimion fy nghwysi, a gochel y "balco" hagr pan neidiai'r swch o'r pridd i fyny, am ryw reswm-deithr i mi. Ar fy ngorau glas, nid oedd fy ymdrechion dycnaf ond megis cawl eildwym yn ymyl y cawl Uysáau braf a'm croesawai o'r maes, adeg cinio, pan gymherid hwy ag aredig Ianto ddiwrnod y preimin. Ac nid Ianto a wobrwywyd! Ba waeth? Yr wyf innau yn ymdeimlo â gogoniant yr hen gelfyddyd. Y mae gwylain gwisgi'r don ar fy mhentir innau. Cura bywyd ym mhob gronyn coch o bridd; bywyd ac anfarwoldeb.