neu'r 'Celtic Time,' y papur annibynnol y gellir ei ystyried yn offerýn y mud- iad newydd. Teg yw dweud bod gan y Llydawiaid ran arbennig yn y mudiad, gan fod yr ymdeimlad Celtaidd yn neilltuol o gryf yn eu plith a bod helynt Llydaw wedi deffro diddordeb mawr yn Iwerddon a Chymru a'r gwledydd Celt- aidd yn gyffredinol. Ni all y mudiad lwyddo heb frwdfrydedd sylweddol yn ein plith ni oll. Y mae'r posibiliadau'n gynhyrfus. Tybed a welir arweinwyr mudiadau cenedl- aethol y gwledydd Celtaidd yn helpu'i gilydd mewn ymgyrchoedd etholiadol? Tybed a ellir disgwyl i genedlaetholwyr y cenhedloedd Celtaidd ymuno i osod maniffesto cyffredin ger bron y Cenhedloedd Unedig neu unrhyw gyngor cyd- wladol arall? Tybed a ddatblyga'r 'Celtic Time' i fod yn wythnosolyn sefydlog neu hyd yn oed, yn y pen draw, yn bapur dyddiol? Tybed a â'r Celtiaid yn eu blaen i arwain y byd i gyfeiriad cydweithrediad Cristnogol? Ni ddylai'r pethau hyn fod y tu hwnt i'n breuddwyd a'n gobaith. Yn sicr, os gall y Celt- iaid ail-ddarganfod a dysgu ymhyfrydu yn y cwbl sydd yn gyffredin iddynt, ym myd llên a diwylliant a gwleidyddiaeth a chrefydd, dylai eu nerth ysbrydol beri chwyldro, nid am y tro cyntaf, ym meddylfryd y byd. DAVIES ABERPENNAR. CYFLWYNO LLEWELYN WYN GRIFFITH, O.B.E., Crawford Cottage, Berkhamstead, Herts. Swyddog yn y Gwasanaeth Sifil. Golygydd cyhoeddiadau Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. J. E. CAERWYN WILLIAMS: Darlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. L. HAYDN LEWIS: Y Parch. L. Haydn Lewis, M.A., Eryl, Ton Pentre, Rhondda. DONALD GIBBY: Gwr ieuanc o Dreorci, lle y mae'n gweithio fel un o "fechgyn Bevin." STANLEY G. LEWIS: Brodor o Lanfarian, ger Aberystwyth. Coleg Prifysgol Cymru a'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Ar hyn o bryd y mae yng Ngholeg y Bala. IFOR EDWARDS: Artist y rhifyn hwn. Brodor o Acrefair, Wrecsam. Mae'n 32 a chafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon a'r Coleg Normal, Bangor. Ar hyn o bryd y mae'n athro celfyddyd yn Ysgol Fodern Brynteg, Sir Ddinbych. GLYN ROBERTS: Gwr ieuanc o Garmel, Sir Gaernarfon. Enillodd ar y soned o dan 18 yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn, 1947,