NODIADAU GOLYGYDDOL Y CELTIAID A'U CYFLE Rhyfedd yw hanes y gair "Celt." Ymddengys mai dyna oedd y gair a ddefnyddid gan y Grocgiaid a'r Rhufeiniaid i ddynodi'r pobloedd Ewropeaidd a oedd yn byw i'r Gogledd iddynt. Tueddai Iwl Cesar, hwyrach, i feddwl mai canolbarth Gâl oedd eu cartref canolog, a rhoddai i'r rhanbarth hwnnw yr enw "Gallia Celtica." Nid oes enghraifît o neb yn defnyddio'r gair i olygu trigol- ion yr Ynysoedd Prydeinig, yn yr hen fyd. Gwreiddyn ieithegol sydd i'r gair "Celt" fel y'i defnyddir yn yr oes bres- ennol. Defnyddid ef yn Ffrangeg, yn gyntaf, i gyfeirio at iaith a phobl Llyd- aw, canys y gred oedd bod y Llydawiaid yn cynrychioli hen drigolion Gâl, Celt- iaid Iwl Cesar. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, trefcdigaeth Frythonig yw Llyd- aw, canlyniad ymfudo o Ynys Prydain. Yn nes ymlaen cymhwyswyd y gair i ieithoedd gwreiddiol Cernyw, Cymru, Iwerddon, yr Alban ac Ynys Manaw, am fod yr ieithoedd hynny'n perthyn i'r un teulu â'r Llydaweg. A daethpwyd yn naturiol i ddefnyddio'r gair "Celtiaid" i ddisgrifio'r cenhedloedd sydd yn siarad yr ieithoedd Celtaidd. Datblygiad naturiol ond anffortunus, wedyn, oedd camarfer y gair. Aeth pobl i dybio bod trigolion y gwledydd Celtaidd wedi disgyn o hil Geltaidd a arglwyddiaethai yn Ewrob yn y cyfnod cynhanesyddol a bod i'r Celtiaid trwy'r oesoedd nodweddion arbennig. Daeth yn gonfcsiwn anorfod dweud bod y Celtiaid yn wyllt ac .yn hiraethus ac yn gyfriniol ac yn freuddwydiol. Dywedid pethau melys amdanynt gan rai, a phethau go hallt gan eraill; ond casgliad cyffredinol yr holl sôn am y Celtiaid oedd eu bod yn ogoneddus — neu'n druenus ­o wan ac aneff eithiol Adweithiwyd yn gryf yn erbyn y gair yn y ganrif hon, ac yn erbyn yr holl syniadau a ymgasglodd o'i gwmpas. Enghraifît o'r adwaith yma yw agwedd Wade-Evans. Ac y mae tuedd yn awr i ddweud bod y gair "Celt" yn gwbl ddiystyr a diwerth ac nad oes dim mwy peryglus na'r cyffredinoli dienaid am nodweddion y Celtiaid. Hawdd gennyf gydymdeimlo hefyd; ond trychineb fydd- ai gwthio'r adwaith i'r fath raddau fel y collid golwg ar y berthynas rhwng y gwledydd Celtaidd a'u cyfle yn yr oes hon. Er bod y cenhedloedd Celtaidd yn dra chymysg o ran hil, y mae iddynt ieithoedd sydd yn perthyn i'r un teulu, ac y mae'r teulu hwnnw'n cynnwys hen iaith Geltaidd Gâl. Nid amhriodol felly yw cymhwyso'r ansoddair "Celtaidd" iddynt. Ac y mae iaith gyffredin yn golygu i raddau helaeth ddiwylliant cyff- redin. Gwyddom am y gyfathrach rhwng Celtiaid Gâl a Phrydain ac Iwerddon yn yr amseroedd cyntefig; gwyddom am y math arbennig o ddiwylliant Crist- nogol a ddatblygodd ymhlith Celtiaid yr Ynysoedd Prydeinig mewn oes ddi- weddarach. Y mae 11e i obeithio bod gan y cenhedloedd Celtaidd, pobloedd mwyaf gorllewinol Ewrob, eu cyfle eto i chwarae rhan greadigol a gwaredigol yn nrama hanes y byd. Er mwyn paratoi'r ffordd i hyn rhaid adfer y gyfathrach rhyngddynt. Dyl- em lawenhau yng ngwaith y Gyngres Geltaidd yn y maes diwylliannol. Ar yr un pryd rhaid inni fynd ymhellach a chreu cyfathrach wl.eídyddol. A dyna bwrpas yr Undeb Celtaidd a ffurfiwyd yn Nulyn eleni, a'r 'Aimsear Ceiltiac'