Rhaid pwyso yn ddiymdroi am gadw'r Cymry gyda i gilydd mewn Unedau Cym- reig (ymhob rhan o'r Fyddin a'r Awyrlu), a sicrhau cyswllt parhaol ac effeithiol rhwng eu gwlad a'u hardaloedd â hwynt. Buddiol hefyd yw inni gofio am y broblem arall sy'n gysylltiedig â'r uchod-prablem enfawr a phwysig y Cymry ar wasgar yn gyffredinol, — iprob- lem y miloedd Cymry hynny a ymfudodd o'r hen wlad i wahanol rannau o Brydain ac i wledydd tramor i gcisio enniil eu byw- oliaeth. Yma, y dasg yw nid yn unig ddangos iddynt nad anghofiodd Cymru am eu bodolaeth, eithr hefyd geisio ateb eu galwadau am gysyltiad agosach ac am- genach â nyni yn y fam-wlad, a sicrhau parhad yn eu cyfraniad a'u diddordeb yn y wlad a'u magodd. A chyfleusterau mor rhagorol yn cael eu hestyn i Bryd- einwyr a ymfuda i'r trefedigaethau Pryd- einig, y mae'n bur debyg yr ychwanegir eto ymhellach at y nifer enfawr o'n cyd- Gymry a fydd, ysywaeth, yn alltudion. Dyletswydd o'r mwyaf o ganlyniad yn enw dyfodol ein cenedl yw inni feddwl am ryw gyfundrefn neu'i gilydd a'n cys- yllta'n effeithiol â'r Cymry yma yn yr all- tud, lawer ohonynt yn dal yn Gymry da a selog, er efallai wedi dod yn ddinasydd- ionteilwng o wledydd tramor. Bychan iawn yw'r nifer yng Nghym- ru heddiw a sylweddola faint a bywiog- rwydd y bywyd a'r ysbryd Cymreig ym- ysg ein cymrodyr ar wasgar. Diddorol, er enghraifft, yw sylwi fod dros gant a hanner o gymdeithasau ac eglwysi Cym- raeg yn bod ymhlith y Cymry mewn gwledydd tramor yn unig-yn Awstralia, Deau Affrig, yr Unol Daleithiau, a'r cyff- elyib; a hynny heb gyfrif y miloedd Cym- ry únigol nad ydynt o fewn cyrraedd un- rhyw gynulliâd Cymreig, ond a ddyhea, ar lawer achlysur, yr un mor ddwfn am gyswllt o ryw fath â'r fam-wlad. Ym- heHach, gellid ychwanegu at y rhain y nifer sylweddol o gynulliadau a chanoî- fannau Cymraeg a geir yng ngweddill Prydain Fawr-yn Lloegr ac yn yr Alban. Cyflawna'r sefydliadau Cymreig hyn waith clodfawr ac amhrisiadwy er cadw Cymry'r gwahanol ardaloedd gyda'i gil- ydd, a diogelu, weithiau yn erbyn anaws- terau di-rif, eu nodweddion a'u traddod- iadau Cymreig ymhlith dylanwadau es- tronol cryfìon. Hwyrach mai'r peth mwyaf diddorol am y Cymry tramor yw'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, lle y ceir tair mil o Gymry, a gerllaw, ym Mro Hydref, wrth odre'r Andes, ryw chwe chant arall o'u cyd-wladwyr. Diau mai hwn yw'r mwyaf Cymreig o holl gyn- ulliadau'r Cymry tramor er cymaint di- rywiad y bywyd Cymreig yno yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yno yn Nyffryn Camwy gwelir iaith, diwylliant a thra- ddodiadau Cymru yn ffynnu; y mae yno tua phymtheg o gapeli Cymraeg ac ar- greffir ganddynt wythnosolyn Cymraeg- "Y Drafod' '-gydag ychydig yn unig ohono yn Sbaeneg. Cynhelir eisteddfod- au'n fynych a dysgir Cymraeg i blant yn rhai o'r ysgolion. Yn ddiweddarach, cychwynnwyd cyhoeddiad Cymraeg arall ganddynt — "Yr Eisteddfodwr," a rydd inni esiampl ymhellach o'u sêl a'u brwd- frydedd dros y diwylliant Cymreig. Ie, fe bery ysbryd Michael D. Jones, y sef- ydlydd, yn fyw yno o hyd, ond oher- wydd dylanwadau bygythiol y Sbaeneg a Llywodraeth yr Ariannin, y gwyn ben- naf yw am gysylltiad agosach â Chymru, y fam-wlad, er adnewyddu a symbylu'r bywyd Cymreig yn eu plith. Gwarth o'r mwyaf, mi gredaf, yw'r ffaith na ŵyr fawr o Gymry am helynt ein cyd-Gymry vn y Wladfa a'r cyffiniau; yn wir, am- heuaf a wyr y mwyafrif hyd yn oed am eu bodolaeth. Er hynny, dyma inni eng- hraifft o "Gymru fach," megis y tu hwnt i'r moroedd; ac mae'n ddyletswydd ni at ei brodorion yn glir ac yn rhesymol-dy1- etswydd i ateb eu galwadau am ychwaneg o athrawon a phregethwyr, am erthyglau ac vsgrifau i'r "Drafod" ac am unrhyw beth a gryfha'r ddolen gydiol rhyngddynt hwy a Chymru. Gellir priodoli llawer o weithgarwch hefyd i Gymry'r Unol Daleithiau. Hwynt-hwy a fedr yn bresennol ymffrost-