Y Cymry ar Wasgar Gan T. ELWYN GRIFFITHS CYDSYNIR yn bur gyffredinol, mi gredaf, y medrai Cymru fel gwlad fod wedi gwneud llawer iawn mwy nag a wnaed dros ei phlant ar wasgar yn y Llu- oedd Arfog yn ystod y rhyfel mawr sydd newydd orffen. Er fy mod yn ddigon parod i gyfaddef nad oedd rhai unigolion a mudiadau gwirfoddol Cymreig ar ôl yn eu hymdrechion i geisio dwyn yr hen wlad a'i diwylliant yn nes at y bechgyn a'r merched hynny a sychedai gymaint amdanynt pan oeddent oddicartref, eto i gyd teimlwyd mai ymdrechion ysbeidiol oedd y rhain, ac nad oedd unrhyw gorff canolog a chenedlaethol yn bod yng Nghymru lle y medrid canoli'r holl waith a oedd yn berthnasol iddynt fel alltudion, a'u cadw mewn cyswllt agosach a mwy parhaol â'r hem wlad. Adran arbennig fyddai hon a fedrai gyfuno eu gweithgar- wch dros ddiogelu eu hiaith a'u diwylliant ymhlith ad-dyniadau estronol mor gryf, a fedrai sefydlu canolfannau iddynt mewn lleoedd hwylus, lle y medrent gydgyfar- fod â'i gilydd mewn awyrgylch Gymreig, neu dreulio ychydig ddyddiau o "leave" ymhlith cyd-wladwyr hoffus ac adran a'u cyflenwai â llyfrau Cymraeg ac am Gym- ru ac a gadwai gysylltiad uniongyrchol â'r canolfannau hyn. Ni wnaed dim yn y cyfeiriad hwn, ysywaeth, gan Gymru, a theimlwyd bob amser yn eiddigeddus o'r Albanwyr a feddai gyfundrefn mor wych i warchod eu meibion a wasanaethai ar faes y gâd. Anodd meddwl am unman ymron lle'r oedd Sgotiaid yn gwasanaethu nad oedd yno adeilad pwrpasol i'w croesawu ac a ddôi â thipyn o'r Alban yn nes iddynt. Gresyn na fuasai Cymru wedi gweithredu ar linellau tebyg, yn enwedig pan gofiwn na chyfrifwyd ei phlant yn y Lluoedd gan yr awdurdodau milwrol fel unigolion o genedl arbennig, yn feddiannol ar ddi- ddordebau a dyheadau gwahanol i'w cym- dogion y Saeson. I'r awdurdodau hyn un oeddent-y Sais, y Sgotyn' a'r Cymro, a'r un cyfryngau adloniant a roddwyd iddynt o11. 0 achos y diffygion hyn ar ran yr awdurdodau milwrol a'r cyrff cen- edlaethol yng Nghymru, bu raid i'r bechgyn greu adloniant Cymraeg iddynt hwy eu hunain, ac ymdrechu ffurfio cym- deithasau a chlybiau Cymreig er mwyn dyfod i gysylltiad â'i gilydd a chadw'r ysbryd Cymreig yn fyw. Haeddant gan- moliaeth arbennig am hyn, ac am gyf- lawni gwaith, cofier, y dylesid fod wedi ei wneud gan Gymru ei hun-fe1 y gwnaed gan y Sgotiaid. Wynebwn yn awr ar gyfnod newydd, y rhaid i Gymru geisio sicrhau gwell gofal o'i halltudion yn y dyfodol. Pery'r broblem y cyfeiriwyd ati uchod ar raddfà lai heddiw, cánys oni elwir ein meibion i fyny i'r Lluoedd Arfog Prydeinig o 'hyd, ac i ymadael ag aelwyd ac ardal? Ceis- iwn felly ddyfod at ein gilydd yn y gwa- hanol ardaloedd trwy hyd a lled Cymru er dwyn allan rhyw fath ar gylchlythyr neu gylchgrawn lleol a geidw pob árdal fél ei gilydd mewn cyswllt a phlant y fro ar wasgar. Ni pheidiodd y broblem gyda therfyn rhyfela; yn wir, y mae'r perygl'y bydd i'r ieuenctid a elwir i fyny golli eu Cymreictod a'u moesoldeb yn llawer mwy oherwydd yr oedran anghyfrifol y ffarwel- iant â'u cartrefi. Hwynt-hwy yw dinas- ydion Cymreig y dyfodol, a rhaid i'n gof- al ninnau gartref fod yn unol â hynny,.