Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Stem Rolar Gan G. J. ROBERTS. CRWYDRAIS lawer mewn mynwent- ydd o dro i dro. Gan amlaf mynwentydd bodau dynol oeddynt- gorffwysfeydd tawel pobl debyg i mi a'm bath; pobl a fedrodd wamalu a chwerthin, breuddwydio a dyfalu, cyn llesmeirio o'u hysbryd, neu ddyfod angau disyfyd i gynnig iddynt gronglwyd ei garreg fedd. Bûm hefyd mewn mynwentydd bodau isddynol — myniwentydd cwn. Yn rhai ohonynt cedwid enwau ac achau'r cwn ar gerrig nadd prydferth. Ond gwelais er- aill heb ynddyntt ond bonwellt cnotiog i guddio'r gwrymiau a gysgodai esgyrn y cŵn pydredig. Yn wir beddau cŵn oedd ynddynt hwy ac nid oedd arnynt nac enw na dyddiad. O raid bûm fwy nag unwaith mewn mynwentydd eraill hefyd-mynwentydd moduron. Yno nid aed i drafferth i gladdu'r ysgerbwd, dim ond gadael i hin- on a drycin fagu rhwd a chen i'w ysu a'i lygru a'i fwyta. Yno rhoed i rwd ryddid i orffen yn hamddenol a sicr y gyflafan a gychwynwyd gan y dreifar anghyfrifol neu'r modurwr esgeulus. Fel y dywed- ais, o raid yr euthum i'r mynwentydd hyn bob tro-mynd yno i chwilio am ddarn o asgwrn modur y medrwn ei asio yn esgyrn fy modur i fy hun er mwyn estyn ei einioes a'i warchod rhag mynd ohono cyn ei amser i'r lle torcalonnus hwnnw lle nad oes ond rhwd yn ysu neu ysbeiliwr yn malurio. Ond y dydd o'r blaen, euthum i fyn- went newydd gbon, un na welais ei thebyg erioed o'r blaen — mynwent stêm rolars, ac ynddi dair o gawresi'r briffordd yn cadw noswyl a gorffwys yng nghwmni ei gilydd. Mewn darn o gytir yng nghwr hen chwarel gerrig ar fin ffordd fawr y gorffwysent, ac er na ddôi gwynt-traed-y- meirw yn agos atynt, rhoddid cyfle i bob gwynt arall bicio i mewn i ffroeni godre'r chwarel a chwyrnellu rhwng eu 'sgerbyd- au. Ni ddôi gwynt-traed-y-meirw o'r fyn- went honno ychwaith, oblegid ni fedd stêm rolars draed. Dyna pam y methais â deall pam y llysenwid gŵr a adnabûm unwaith yn 'stêm rolar' am fod ei draed yn fflat eu gwadnau ac yn cyfeirio y naill at y myn- ydd a'r llall at y môr. Fodd bynnag, mewn chwarel ar fin ffordd fawr y cefais fynwent y stêm rolars. Edrychai'r tair yn resynys eu byd. Nid oedd aroglau stêm cynnes o'u cwmpas mwyach, ac ni ellid ei weld fel o'r blaen yn oeri'n ddagrau ar eu casin neu'n cronni'n lwmp o ddwr gloyw, aflonydd ar stribed o saim. Yn wir, yr oedd hyd yn oed y saim wedi diflannu erbyn hyn a rhwd wedi ei ddisodli. Yr oedd caban y dreifar mor noeth a thyllog â phenglog buwch, ac yr oedd haen o rwd coch dros yr olwynion a fu unwaith yn creinsio cer- rig y chwarel yn llwch, ac yn eu gwthio'n ddiarbed i wyneb y ffordd fawr. Ac o weld y tair cawres yn gorfod huno eu hun olaf yn y chwarel gerrig honno ac ar fin y ffordd honno, ymdeimlais â chieidd-dra na phrofais ei debyg hyd yn oed mewn mynwentydd cwn. Rhoed eu cyrff llon- ydd i orffwys yng ngolwg y pethau y bu'r tair yn tra-arglwyddiaethu arnynt tra parodd gwres bywyd yn eu hymysgar- oedd haearnaidd. Gwahardd yr Hen Destament ferwi llwdn yn llaeth ei fam, ond dyma Gyngor Sir neu Gyngor Dos- barth yn goddef peth gwaeth. Ond na feier y cynghorau ychwaith. Fe all nad yw hyn ond un enghraifft arall o'r dynged bryfoclyd honno a fyn roi'r oruchafiaeth i Asyn Chesterton. Tynged front ydyw honno, hyd yn oed pan ddigwydd yn