Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

golli yr ieuenctid nad ydynt yn deall yr hyn sydd yn cael ei ddweud, neu gyfadd- awdu rhywfaint (a'r seíyllfa leol o hyd i benderfynu pa faint) a thrwy hynny geisio cadw y plant a'r ieuenctid o fewn muriau y capel Cymraeg. Dewisaf fi yr ail hvybr. Ac na'm cam ddealler. Nid o safbwynt ibara a chaws a chadw'r nifer ar lyfrau'r eglwys ond o safbwynt cadw'r iaith Gymraeg. Os collir hwy o'r clyw dyna hi ar ben. Os cedwir hwy yn y clyw y mae gobaith eu argyhoeddi o bwys- igrwydd dysgu a siarad yr iaith Gymraeg. Y ffyrdd ymarferol a gymeraf i o geisio gwneuthur hynny yw galw'r mamau at ei gäydd ac apeHo atynt i siarad Cymmeg ar yr aelwyd; cynnal y Gobeithlu mor Gymreig ag sydd modd a threfnu'r gwaith a wneir yn Gymraeg, codi Aelwyd yr Urdd i'r ieuenctid a cheisio dod â hwy i gyffyrddiad â'r bywyd Cymreig drwy Eis- teddfod Genedlaethol yr Urdd a'r Gwer- sylloedd, etc. Trafod y broblem o'r pen Mi adwaen un a'th gâr â chariad gwir, Na chymer fyd am danat yn y ffair. Dwys ddeisyf yn ei bader egwyl hir Ar ôl dod 'n ôl fin hwyr i'w dad di wair. Ond athrist yw o ganfod glan dy fôr Yn ofer foeth hil falch sy'n lladd dy iaith, Gan gau'n ddidostur yn dy wyneb ddôr Ar weledigaeth aur canrifoedd maith. Minnau a'th garaf. 0 druaned fi! A'th nef o ddyffryn ac o fryn yn ffoi. Onid oes ynof eiriol drosot ti Wrth weld y gad i'th erbyn yn cyffroi? Dy feibion, pybyr ŷnt— a da y gwn: Llon af i'm rhawd ac ar fy ngwar dy bwn. 33, Radsock Road, Lerpwl. chwith yw gwrthod cyfaddawdu yn y pul- pud a pheidio gweithio yn galed, egniol i fagu'r genhedlaeth ieuanc yn Gymry. Ni welaf fi obaith o gwbl i achub y sefyllfa ond drwy'r plant, a'm gobaith yw y bydd- af yn defnyddio llai o Saesneg mewn eg- lwys Gymraeg yn Nhreforus ymhen ugain mlynedd (os caf fyw) nag a wnaf heddiw. Fel y mae'r sefyllfa heddiw ni chredaf yr adferir hi drwy fod yn ofnadwy o eith- afol, fel y cyfaill hwnnw a gadwai gyfrif wrth chwarae tennis, "Pymtheg, cariad, deg ar hugain, cariad," etc. Nac ych- waith drwy siarad ac ysgrifennu yn ei chylch hi. Y perygl yw i mi fy hunan ac eraill dybio fy mod wedi gwneud rhyw- beth dros yr iaith Gymraeg drwy ysgrif- ennu y tipyn erthygl hon i'r Fflam. Dim ond llafur a gwasanaeth dygn, amynedd- gar a di-ddiolch drwy foddiannau mor am- mhoblogaidd a di-atdyniad â Gobeithlu- oedd a dosbarthiadau Ysgol Sul a'i ceidw hi. FY NGWLAD ELIAS JONES.