fyddai iaith tragwyddoldeb. Pan ystyr- iom mor drwm y bu'r clefyd hwn y syn- dod yw fod y Gymraeg mor fyw ag yw hi, a gwnaeth yr eglwysi Cymraeg eu rhan yn well na llawer cylch i'w chadw yn fyw. Oni bai am yr eglwysi Cymraeg yn Nhre- forus heddiw byddai sefyllfa'r iaith yn llawer gwaeth nag ydyw. Yn y capel a'r eglwys Gymraeg y olyw llawer o'r plant hynny o Gymraeg a glywant. Yr unig beth o bwys yn awr yw pa fodd y gellir adfer y sefyHfa. Credaf nad yw yn rhy ddiweddar mewn llawer ardal yng Nghymru lle mae'r iaith Gymraeg yn y fantol i droi'r glorian o blaid y Gym- raeg. Nid wyf yn cael fod pabl yn wrthwynebus i hynny; gofyn gormod o ymdirech y mae, yn hanes y rhan fwyaf ohonynt. A dyna'r wedd fwyaf digalon i'r sef- yllfa, sef nad yw mwyafrif mawr o aelod- au yr eglwysi Cymraeg, yn yr ardaloedd hynny lle mae'r iaith mewn perygl o fynd i gdlH, yn sylweddoli fod ei chadw yn gol- ygu ymdrech a brwydr ddi-ollwng. Ofnaf fod yr hen bobl yn eu twyllo eu hunain i gredu y bydd popeth yn iawn, maá capel Cymraeg fydd eu capel hwy ymhen chwar- ter canrif eto, serch iddynt hwy siarad Saesneg â'r wyrion a'r wyresau. Ychyd- ig iawn o'r tadau a'r mamau sy'n ym- boeni i siarad Cymraeg â'u plant a gwrth- sefyll; Hifeiriant Saesneg yr ysgolion. Er hynny, credaf eu bod yn awyddus i'w plant i 'barhau yn llwybrau eu tadau drwy fynychu yr addoldy Cymraeg. Os ânt yno, nid yw'r rhieni, ymddengys i mi, yn ymiboeni nad yw'r plant yn deall nemor ddim o'r emynau a ganant na'r Beibl Cymraeg a ddarllenant na'r bregeth a glywant. Aeth llwyddiant bydol drwy gyfrwng yr ysgol yn bwysicach yng ngolwg rhieni Cymru heddiw na llwydd- iant enaid drwy gyfrwng y cysegr. A'r gwasanaeth mwyaf y gall arwein- wyr yr eglwysi ei wneud heddiw tuag at adfer y sefyllfa yw dweud a dweud, a dal i ddweud fod cadw'r iaith Gymraeg yn anrhoethol bwysig o bob safbwynt a ddyl- ai gyfrif gan Gristionogion. Y mae'n bwysig o safbwynt cadw'r Cymry ýn Gristionogion; nid bod pob Cymro Cym- raeg yn Gristion da, ond am fod pob Cym- ro di-Gymraeg, gydag eithriadau, mewn perygl o fynd yn bagan. Pan encilia'r Cymry o'r capeli Cymraeg am eu bod yn colìi eu iaith, nid encilio i'r egliwysi Saes- neg a wnânt gan mwyaf ond i'r byd. "Eu iaith a gadwant A'u Nêr a folant." Byddai yr un mor gywir dweud, Eu iaith a gollant A'u Nêr a wadant. Y mae cadw'r iaith yn bwysig o safbwynt Uwyddiant enaid y genhedlaeth ieuanc. Y mae'n bwysig o safbwynt dyfodol yr eglwysi Cymraeg eu hunain. Glywais y Parch. J. J. Williams, M.A., yn dweud fod yr eglwysi Cymraeg yn Nhreforus yn colH mwy drwy golli'r iaith na thrwy bob pechod gyda'i gilydd. Argyhoedder pob aelod sydd a'i enw ar lyfrau'r eglwysi Cymraeg o'r gwirionedd hwn. Pa mor bell y dyHd cyfaddawdu drwy ddefnyddio rhywfaint o Saesneg yn y sef- yllfa fe1 y mae ar hyn a bryd? A ddÿlid cyfaddawdu o gwbl? Dyma fater sydd yn peri cur .pen ffyrnig. I ddechrau, credaf fod sefyHfa'r iaith yn gwahaniaethu yma a thraw ac na eHir defnyddio, ac na ddylid defnyddio, yr un polisi ymhob man. Er enghraifft, y mae sefyllfa eg- lwys Gymraeg yn Lerpwl, neu Lundain, neu Gaerdydd hyd yn oed, yn wahanol i'r hyn yw yng NghasteHnedd neu Aber- dar. Ynys Gymreig yng nghanol y môr Seisnig yw'r eglwys Gymraeg yn y trefi mawrion ac nid oes dim i'w ennill, ond y cyfan i'w golli, drwy ddefnyddio Saes- neg. Ond mewn lleoedd fel Treforus a Glandŵr ac Abertawe nid ynys Af allon y Cymry yw'r eglwysi Cymraeg i fod ond cyfrwng naturiol y gymdeithas gyfan o grefydda. Ond y mae'r gymdeithas yn ddwyieithog. A'r dewis i'r eglwysi Cym- raeg yw naill ai gwrthod cyfaddawdu yr un iot na'r un tipyn yn y pulpud nac mewn dosibarth a thrwy hynny fodloni i